Ffordd Farrar
Bangor 1 – 2 Castell-nedd

Mae rheolwr Castell-nedd, Andy Dyer, wedi dweud ei fodd fod ei dim wedi maeddu Bangor gartref ar Ffordd Farrar am y tro cyntaf mewn 25 gêm.

Fe aeth Bangor ar y blaen wedi hanner awr ar ôl i Les Davies daro’r bêl i gefn y rhwyd oddi ar beniad gan Nicky Ward.

Roedd yr ymwelwyr yn meddwl eu bod nhw wedi unioni’r sgôr cyn yr egwyl, ond fe wrthodwyd ymdrech Chris Jonesar ôl i Paul Fowler gael ei gosbi am drosedd ar Dave Morley.

Ond Castell-nedd oedd y tîm gorau yn yr ail hanner ac fe sgoriodd Kristian O’Leary oddi ar gic gornel James Burgin wedi awr.

Gyda chwarter awr yn weddill fe aeth Castell-nedd ar y blaen ar ôl i Lee Trundle fanteisio ar slwmbran amddiffyn Bangor.

Mae rheolwr Castell-nedd yn gobeithio y bydd ei dîm gallu gwneud llam llyffant dros ben y Seintiau Newydd i’r ail safle, a sicrhau lle yn y Cynghrair Europa tymor nesaf.

“R’yn ni wedi dangos pa mor benderfynol yw’r tîm drwy ddod yn ôl ac ennill. Ond doedden ni ddim yn credu ein bod ni’n haeddu bod ar ei hôl hi hanner amser,” meddai Andy Dyer.

“Y cyfan allen ni wneud nawr yw ennill y gemau sy’n weddill a gobeithio y bydd y Seintiau Newydd yn colli ambell un.

“Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n cael rhediad da yn ystod yr wyth gêm nesaf ac rwy’n gobeithio hawlio’r ail safle.”