Craig Bellamy, capten Caerdydd
Mae rheolwr cynorthwyol Caerdydd, Terry Burton, wedi dweud bod yr Adar Glas yn haeddu gwell na cholli 0-2 yn erbyn Ipswich ddydd Sadwrn.

Fe gafodd Caerdydd sawl cyfle da yn ystod yr hanner cyntaf ond arbedodd gôl-geidwad y Marton Fulop sawl pêl.

Sgoriodd Jimmy Bullard dwy gôl yn yr ail hanner er mwyn sicrhau’r pwyntiau llawn i Ipswich.

“D’y ni ddim yn hoffi colli,” meddai Terry Burton. “Dydyn ni ddim wedi colli’n aml y tymor yma ond mae bob tro yn siomedig pan mae’n digwydd.

“Ond roedd y perfformiad yn erbyn Ipswich yn haeddu gwell na cholli 2 – 0.

“Doedd yna na ddim nerfau yn y tîm ond fe fethon ni gymryd ein cyfleoedd ac mae hynny’n siomedig.

“Os nad ydych chi’n cymryd pob cyfle, mae yna siawns dda y byddwch chi’n cael eich cosbi yn hwyrach ymlaen.

“Roedden ni wedi rheoli’r gêm ond wedi colli 2 – 0.  Mae hynny’n gallu digwydd ym mhêl droed.”

Mae Terry Burton hefyd yn ansicr sut y bydd tymor y Bencampwriaeth yn gorffen eleni, ar ôl sawl canlyniad annisgwyl dros y penwythnos.

“Mae yna 11 gêm yn weddill, a 33 pwynt i’w hennill. Ond mae’n anodd gwybod gyda’r gynghrair yma.  Fyddwn I ddim yn rhoi arian ar bwy fydd ar y brig.”