Jay Emmanuel-Thomas - methiant fu ei ymdrechion i sgorio heno
Mae gobeithion Caerdydd am ddyrchafiad wedi cael ergyd heno wrth golli 2-0 gartref i Dref Ipswich.
Roedd cyfuniad o ddwy gôl gan Jimmy Bullard yn yr ail hanner a pherffomiad nodedig gan Marton Fulop drwy’r gêm fel gôl-geidwad yn ddigon i gadw’r Adar Glas i ffwrdd.
Llwyddodd Fulop i wneud cyfres o arbedion dramatig, gan rwystro Jay Emmanuel-Thomas ar dri achlysur, yn ogystal â Peter Whittingham a Michael Chopra.
Pylu fodd bynnag a wnaeth ymdrechion Caerdydd ar ôl i Bullard sgorio ar y 67fed munud, cyn selio’r fuddugoliaeth gyda gôl arall bedwar munud cyn y diwedd.
Hon oedd pumed buddugoliaeth olynol Ipswich dros Gaerdydd, ac mae’n eu gadael yn nhrydydd safle’r gynghrair ar ôl methu â manteisio ar fethiant Abertawe a Nottingham Forest heddiw.