Alan Tate - ei drosedd wedi costio'n ddrud i'r Elyrch
Daeth rhediad o fuddugoliaethau Abertawe i ben y prynhawn yma ar ôl colli 1-0 i Scunthorpe, tîm sy’n drydydd o waelod cynghrair Pencampwriaeth npower.

Fe wnaeth cic o’r smotyn gan Joe Garner ar ôl 71 munud o’r gêm brofi’r gwahaniaeth rhwng y ddau dîm, a chosbi’r Elyrch am beidio â manteisio ar gyfleoedd yn gynharach yn y gêm.

A hwythau yn yr ail safle ar frig y gynghrair, fe fyddai buddugoliaeth heddiw wedi rhoi’r Elyrch yn ddigon agos at fod yn saff am ddyrchafiad.

Fodd bynnag, gwastraffu llu o gyfleoedd a wnaethon nhw yn Glanford Park y prynhawn yma.

Doedd hi’n ddim syndod mai nhw oedd yn rheoli’r hanner cyntaf, ond methiant fu pob ymgais i sgorio goliau.

Wrth iddyn nhw gyflymu rhywfaint ar ddechrau’r ail hanner, roedd hi’n ymddangos yn fwyfwy tebygol y bydden nhw’n cael eu gôl yr oedden nhw’n ei haeddu.

Fodd bynnag, aeth pethau o chwith iddyn nhw wrth i’r tîm cartref gychwyn gwrthymosodiad, pryd y troseddodd Alan Tate yn y cwrt cosbi a rhoi cyfle i Garner sgorio unig gôl y gêm.