Michael Laudrup gyda Huw Jenkins
Alun Rhys Chivers sy’n edrych nol ar wythnos gythryblus yn hanes Clwb Pêl-droed Abertawe…

Ni allai amseru Clwb Pêl-droed Abertawe wrth ffarwelio â’r rheolwr Michael Laudrup fod llawer gwaeth i’r Elyrch.

Mae’r Mis Bach yn fis mawr i Abertawe, wrth iddyn nhw herio Caerdydd ddydd Sadwrn, ac yna Napoli yn rownd nesaf Cwpan Cynghrair Europa ar Chwefror 20 a 27.

Di-angen a rhwystredigaeth, felly, fu’r holl sylw i’r clwb yn y cyfryngau yn dilyn y penderfyniad i ddiswyddo Laudrup yn gynharach yr wythnos hon. Ychydig iawn o bobol fyddai’n anghytuno â’r penderfyniad, yn enwedig gan fod Laudrup fwy na thebyg wedi gadael ar ddiwedd y tymor beth bynnag.

Wrth glywed y sïon ynghylch y rhesymau dros benderfyniad y cadeirydd Huw Jenkins a’r cyfarwyddwyr eraill  i ddiswyddo’r gŵr o Ddenmarc, mae’n anodd peidio teimlo bod y penderfyniad yn un anochel.

Blas cas

Yr hyn sy’n gadael blas cas – yn fy ngheg i, beth bynnag – yw bod hyn oll wedi digwydd yn ystod wythnos y gêm fawr yn erbyn Caerdydd, a phythefnos cyn dwy o’r gemau mwyaf yn hanes y clwb. Ar y wyneb, mae Laudrup wedi perfformio’n dda fel rheolwr, gan arwain ei dîm i fuddugoliaeth yng Nghwpan Capital One yn Wembley y tymor diwethaf a gorffen yn y nawfed safle yn yr Uwch Gynghrair.

Y tymor yma, mae’n teimlo fel pe bai’r llwyddiannau hynny wedi arwain at gwymp Laudrup a’i griw. Fel y dywedodd Laudrup sawl gwaith y tymor hwn, carfan fach sydd gan yr Elyrch, ac mae’n anodd cadw’r chwaraewyr ar eu gorau ym mhob cystadleuaeth.

Yn yr oes sydd ohoni, braidd yn anffodus i Laudrup yw’r ffaith fod cadeiryddion y clybiau mawr yn blaenoriaethu’r Uwch Gynghrair dros y cystadlaethau eraill. Chwe gêm yn unig allan o’r wyth ddiwethaf y mae’r Elyrch wedi’u hennill. Colli o 2-0 yn erbyn West Ham y penwythnos diwethaf oedd yr hoelen olaf yn arch Laudrup. Ond maen nhw’n dal i frwydro yng Nghwpan yr FA hefyd, felly mae digon o gyfleoedd eto i gael eu gafael ar dlws y tymor hwn.

Dadleuon y tu ôl i ddrysau caeedig?

Ond mae sïon hefyd fod llawer mwy o ddadleuon y tu ôl i ddrysau caeedig na allwn ni ddim ond dyfalu a ydyn nhw’n wir ai peidio. Roedd sôn, er enghraifft, fod Laudrup yn anhapus fod Jenkins yn dechrau cymryd mwy o reolaeth dros arwyddo chwaraewyr, a’i fod e wedi mynegi’i ddicter o flaen y chwaraewyr hynny.

A phwy all anghofio fod Laudrup hefyd wedi colli’r cyfle yn gynharach ym mis Ionawr i ddod â Ki Sung-Yeung yn ôl o’i gyfnod ar fenthyg gyda Sunderland, trwy anghofio pryd oedd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r cais. Gwaddol Laudrup i’r Elyrch yw’r criw o Sbaenwyr sydd ar y Liberty, ond roedd sôn fod hyd yn oed y rheiny wedi dechrau ymbellhau oddi wrth weddill y garfan.

Y dyfodol

Peth hawdd yw edrych yn ôl a dweud ‘beth pe bai hyn a hyn wedi bod yn wahanol’, ond rhaid edrych i’r dyfodol bellach, gyda chyn-gapten yr Elyrch Garry Monk wrth y llyw am weddill y tymor. Mae’n siŵr y bydd ymateb cymysg i’r hyfforddwr newydd ymhlith cefnogwyr Abertawe yn ystod cyfnod mor bwysig i’r clwb.

Di-brofiad yw Monk fel hyfforddwr ond mae’r cyfarwyddwyr wedi dangos cryn ffydd ynddo, gan roi tan ddiwedd y tymor iddo brofi’i hun. Pwy a ŵyr a gaiff e’r cyfle yn barhaol, fel sydd eisoes wedi cael ei awgrymu gan rywrai o’r wasg.

Mae enwau eraill yn cael eu hystyried, wrth gwrs, ac mae’n ymddangos mai cyn is-hyfforddwr y clwb, Graeme Jones yw’r ffefryn, er ei fod e wedi gwrthod y swydd dair gwaith yn y gorffennol.  Glenn Hoddle yw’r enw diweddaraf i gael ei gysylltu â’r swydd. Mae darllenwyr Golwg360 hefyd wedi awgrymu Denis Bergkamp, Marcelo Bielsa, Mark Hughes a John Toshack fel posibiliadau eraill.

Yn y cyfamser, mae gan Garry Monk a’i is-hyfforddwr Alan Curtis gwta ddeuddeg gêm i wyrdroi perfformiadau’r chwaraewyr os ydyn nhw am aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesa. Fe fyddai disgyn i’r Bencampwriaeth yn bris uchel i’w dalu am dymor o gecru a dadlau ymhlith y rhai sy’n rheoli’r tîm oddi ar y cae. O safbwynt Laudrup, fe allai’r ffrae orffen mewn tribiwnlys wrth iddo geisio esboniad dros ei ddiswyddiad.

Am wythnos i groesawu’r hen elyn i’r Liberty!