Ryan Giggs
Mae amddiffynnwr Man Utd, John O’Shea wedi dweud y gallai Ryan Giggs barhau i chwarae tan ei fod yn 40 oed.

Mae’r Cymro newydd ddathlu ugain mlynedd yn chwarae pêl-droed yn nhîm cyntaf Man Utd yr wythnos hon, ac mae eisoes wedi arwyddo cytundeb newydd i ymestyn ei yrfa am flwyddyn arall.

Ond mae John O’Shea yn credu y gallai Giggs ddal ati i chwarae am o leia’ dair blynedd arall.

“Does dim amheuaeth y gallai barhau i chwarae. Mae e heb newid llawer yn gorfforol ers i mi ei adnabod ac mae’n edrych ar ôl ei hun yn dda,” meddai John O’Shea.

“Yn dibynnu ar anafiadau, fe allai ymestyn ei yrfa yn hawdd.  Ond rwy’n siŵr ei fod am gymryd pethau un tymor ar y tro”

“Mae’n mwynhau chwarae gymaint ac nid wyf yn gweld pam na allai gario ‘mlaen i chwarae.”

Mae’r Gwyddel yn credu mai dim ond campau un o gyn chwaraewr AC Milan sy’n gallu dod yn agos i gyflawniad Giggs.

“Rwy’n credu bod Giggsy hyd yn oed wedi mynd heibio Paolo Maldini.  Mae ei gyflymder a chydbwysedd i fynd heibio amddiffynwyr yn anhygoel”

“Mae’r rheolwr wedi adeiladu sawl carfan ac mae Giggsy wedi bod yn rhan allweddol o bob un ohonynt.”