Brendan Rogers
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi’i enwi’r rheolwr y mis y Bencampwriaeth ar gyfer mis Chwefror.

Roedd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, hefyd wedi’i enwi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr ynghyd â rheolwr QPR, Neil Warnock a rheolwr Caerlŷr, Sven-Goran Eriksson.

Er hynny, rhediad Rodgers o bum buddugoliaeth allan o chwe gêm aeth a hi.

Mae’r rhediad hwnnw wedi cynnwys buddugoliaethau mawr yn erbyn Bryste, Middlesborough a Leeds United, ac wedi codi ei dîm i’r ail safle yn y gynghrair.

Dyma’r tro cyntaf i Rodgers ennill y wobr.

“Dwi’n falch iawn” meddai Rodgers. Rydan ni’n un tîm, o’r chwaraewyr, staff, bwrdd cyfarwyddwyr a chefnogwyr. Fel y rheolwr rydw i’n falch iawn o dderbyn y wobr yma ar eu rhan nhw.”

Scunthorpe fory

Bydd Abertawe yn gobeithio cynnal y rhediad da wrth herio Scunthorpe yfory.

Mae Scunthorpe ar hyn o bryd mewn perygl o gwympo o’r adran, a chyn y gêm mae eu chwaraewr canol cae, Josh Wright wedi awgrymu na fydd Yr Elyrch yn edrych ymlaen i’r gêm.

Diystyru’r honiadau wnaeth Rogers gan ddweud mai rhain yw’r gemau sy’n mynd i sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair i’w dîm.