Y Cae Ras (llun o wefan clwb Wrecsam)
Mae Cynghorydd o ardal Wrecsam wedi dweud nad yw’n credu bod gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam ddigon o adnoddau i brynu’r clwb ar eu pennau eu hunain.

Fe fydd yr ymddiriedolaeth yn cyfarfod gyda pherchnogion y clwb, yn ogystal â Chyngor Sir Wrecsam a’r ddynes busnes Stephanie Booth heno er mwyn trafod prynu’r clwb.

Mae’r Cynghorydd Phil Wynn yn credu y byddai’n rhaid i Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam gydweithio gyda buddsoddwr eraill er mwyn gallu prynu’r clwb gan Geoff Moss ac Ian Roberts.

“Mae’n rhaid gwneud rhywbeth i sortio’r llanast yma, ac yn gyflym,” meddai Phil Wynn.

“Y mwyaf o bobol sydd â diddordeb mewn prynu’r clwb, y gorau. Ond Stephanie Booth a’r ymddiriedolaeth yw’r unig opsiynau ar hyn o bryd.

“Rydw i ar ddeall nad yw cynnig yr ymddiriedolaeth yn ddigon ar ei ben ei hun.”

Dywedodd y cynghorydd ei fod yn disgwyl cyhoeddiad am werthiant y clwb yn fuan a bod angen perchnogion newydd yn gyflym.

“Fe fydd Wrecsam dan fygythiad nes bod rhywun yn prynu’r clwb,” meddai.

Gobaith y cynghorydd yw y bydd blynyddoedd o gecru rhwng perchnogion Wrecsam a’r cefnogwyr yn dod i ben pan fydd y clwb yn cael ei werthu.