Mae’r pêl-droediwr Almaeneg Thomas Hitzlsperger, a chwaraeodd yn Uwch Gynghrair Lloegr, wedi cyhoeddi ei fod yn hoyw.

Datgelodd y gŵr 31 oed, sydd wedi chwarae i Aston Villa, West Ham ac Everton yn Uwch Gynghrair Lloegr a bellach wedi ymddeol, y newydd i bapur Die Zeit.

Ef yw’r pêl-droediwr mwyaf adnabyddus hyd yn hyn i ddatgelu’n gyhoeddus ei fod yn hoyw, ac fe ddywedodd bod nawr yn “amser da” i wneud hynny.

“Rwy’n datgelu fy mod yn hoyw oherwydd mod i eisiau symud y drafodaeth ynglŷn â phobl hoyw mewn chwaraeon proffesiynol ymlaen,” meddai.

Dywedodd mai yn yr ychydig o flynyddoedd diwethaf yr oedd wedi sylwi bod gwell ganddo fyw gyda dyn arall, gan ychwanegu nad oedd “erioed wedi teimlo cywilydd” am deimlo felly.

Ond yn ôl Hitzlsperger mae’r broblem o glywed sylwadau yn yr ystafell newid yn un yr oedd yn rhaid iddo geisio delio ag ef yn ystod ei amser fel pêl-droediwr.

“Dychmygwch 20 o ddynion yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn yfed – mae’n rhaid i chi adael i’r mwyafrif fod, bellach bod y jôcs yn rhyw led-doniol a bod y siarad ynglyn a bod yn hoyw ddim yn rhy sarhaus,” meddai.

Enillodd Hitzslperger 52 cap dros yr Almaen, gan gynnwys chwarae yng Nghwpan y Byd 2006 a Phencampwriaethau Ewrop yn 2008 pan gyrhaeddodd ei dîm y ffeinal.

Treuliodd y chwaraewr canol cae bum mlynedd yn Aston Villa cyn chwarae i Stuttgart, Lazio, West Ham, Wolfsburg ac Everton, cyn ymddeol oherwydd anafiadau.

Troedio tir newydd

Mae cyhoeddiad Hitlzsperger yn dilyn eraill ym myd chwaraeon sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n hoyw yn ddiweddar.

Postiodd y deifiwr Tom Daley fideo ar YouTube ym mis Rhagfyr yn dweud ei fod yn hoyw a bellach mewn perthynas gyda dyn arall.

Mae’r pêl-droedwyr Robbie Rogers, gynt o Leeds, ac Anton Hysen o Sweden wedi cyhoeddi eu bod yn hoyw yn y blynyddoedd diwethaf.

Justin Fashanu oedd y pêl-droediwr proffesiynol cyntaf i ddod allan yn hoyw yn 1990. Fe laddodd ei hun wyth mlynedd yn ddiweddarach, yn 37 oed.

Fe groesawodd y grŵp ymgyrchu Stonewall benderfyniad Hitzlsperger i ddatgelu’i rywioldeb yn gyhoeddus, gan fynegi gobaith y byddai’n ysbrydoli mwy i ddilyn ei esiampl.