Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi ymddiheuro ar ôl gorfod gofyn i bron i 1,000 o gefnogwyr Lloegr ddychwelyd eu tocynnau.

Roedd y tocynnau ymysg 1,500 o docynnau ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ar 26 Mawrth gafodd eu gwerthu o fewn pedair awr.

Ond roedd y tocynnau wedi eu rhyddhau oherwydd camgymeriad gweinyddol ac ni ddylent fod wedi cael eu gwerthu o gwbl.

Mae Cymdeithas Bêl Droed Lloegr bellach wedi ysgrifennu at y cefnogwyr sy’n meddu ar y tocynnau gan ddweud eu bod nhw’n siŵr o gael eu harian yn ôl.

“Yn anffodus mae’n rhaid i mi gadarnhau bod Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi gorfod lleihau faint o docynnau sydd ar gael ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Jonathan Ford.

“Roedd cyfanswm y tocynnau yr oedd Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn meddwl oedd ar gael yn anghywir.

“Ar ran Cymdeithas Bêl Droed Cymru, fe hoffwn i ymddiheuro am y siom y mae hyn wedi ei achosi.”

‘Iawndal’

Mae cadeirydd Ffederasiwn y Cefnogwyr Pêl Droed, Malcolm Clarke, wedi galw am iawndal i’r cefnogwyr oedd wedi prynu’r tocynnau, ar ben cael eu harian yn ôl.

“Mae’n sefyllfa druenus ac r’yn ni eisiau cynnal trafodaeth gyda Chymdeithas Bêl Droed Lloegr ynglŷn â sut y maen nhw’n mynd i ymdrin â’r sefyllfa a digolledu’r rheini sydd wedi cael eu heffeithio,” meddai Malcolm Clarke.

Dywedodd fod rhai o gefnogwyr Lloegr wedi eu “cythruddo” gan y penderfyniad.