Mae Derek Brazil wedi cael ei benodi’n rheolwr Hwlffordd tri mis yn unig ar ôl cael ei ddiswyddo gan y clwb.

Bu rhaid i’r Adar Glas benodi rheolwr newydd ar frys ar ôl i Gavin Chesterfield ymddiswyddo oherwydd y pellter rhwng ei swydd, ei gartref a Hwlffordd.

“Yn anffodus roedd Gavin yn teimlo nad oedd yn gallu ymroi yn llawn i’r swydd. Roedd yn gweithio yng Nghaerloyw ac yn byw yng Nghaerdydd,” meddai Hwlffordd mewn datganiad.

“Er ei fod yn mwynhau’r her o helpu’r clwb osgoi disgyn o’r gynghrair, roedd yn teimlo na fyddai’n deg i’r clwb, y chwaraewyr a’r cefnogwyr pe bai’n parhau.”

Roedd Gavin Chesterfield yn rheolwr ar Y Barri cyn cael ei swydd gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru gyda Hwlffordd.

Dywedodd Gavin Chesterfield y byddai amseriad ei benderfyniad yn sioc i rai a’i fod wedi bod yn benderfyniad anodd iddo.

“Ond rwy’n teimlo mae dyma’r penderfyniad cywir, er lles y clwb,” meddai Gavin Chesterfield.

“Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n gallu rhoi 100% i’r clwb.

“R’yn ni wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni ac fe fydd hynny o fudd i’r clwb yn y dyfodol. Rwy’n dymuno’n dda i Hwlffordd.”

Mae cadeirydd Hwlffordd, Rob Summons, wedi diolch i’r cyn rheolwr am ei waith caled o dan amgylchiadau anodd.

“Fe fydd Gavin yn rheolwr gwych yn y dyfodol.  Mae ei sgiliau trefnu, rheoli a disgyblaeth yn ogystal â’i ddealltwriaeth o’r gêm yn ardderchog,” meddai Rob Summons.

“Mae wedi gwneud argraff fawr yn ei amser byr gyda’r clwb ac r’yn ni’n dymuno’n dda iddo am y dyfodol.”

Brazil yn dychwelyd

Mae Derek Brazil wedi dweud y cafodd sioc i dderbyn y galwad ffôn yn gofyn iddo ddychwelyd i’r clwb.

“Rwy’n deall y sefyllfa anodd mae’r clwb ynddo ar hyn o bryd ac rwyf wedi derbyn yr her,” meddai Derek Brazil.

“Rwyf wedi treulio saith blynedd yn chwaraewr a rheolwr gyda’r clwb ac roedd yn gyfle allen i ddim ei wrthod.

“Roedd penderfyniad y clwb [i’w ddiswyddo] ym mis Tachwedd llynedd yn gywir ar y pryd.

“Ond rydw i wedi cael amser gyda fy nheulu ac mae gen i lawer mwy i’w gynnig eto.”