Justin Edinburgh
Portsmouth 0 Casnewydd 2

Fe lwyddodd Casnewydd i ddwyn triphwynt o dan drwynau torf o 15,000 yn Portsmouth, gyda dwy gôl o fewn dwy funud.

Roedd y fuddugoliaeth yn debyg o roi boddhad arbennig i’r rheolwr Justin Edinburgh gan ei fod newydd wrthod y cyfle i reoli Portsmouth, ei hen glwb.

Am gyfnodau helaeth, roedd y tîm o Went o dan bwysau ac, er gwaetha’ dechrau da, fe fu’n rhaid iddyn nhw glirio’r bêl oddi ar y lein ddwywaith yn yr hanner cynta’.

Trobwynt

Fe ddaeth trobwynt y gêm ar ôl 65 a 67 munud gyda dwy gôl gan y chwaraewr canol cae, Mike Flynn.

Ar ôl hynny, fe fu’n rhaid iddyn nhw amddiffyn yn ddygn ond roedd yn ganlyniad da ar ôl y golled i Peterborough ganol yr wythnos.

Mae hefyd yn eu codi i’r pedwar ucha’ ar wahaniaeth goliau.