Barry Chips sy’n pwyntio bys at frenin Old Trafford am feiau presennol y pencampwyr…

Druan o David Moyes! Ychydig fisoedd fewn i’w swydd newydd, ac mae ffans Man U am ei roi mewn tacsi i’r tywyllwch.

Ond byddwch yn onest, chwi gefnogwyr Cochion Manceinion, rydan ni gyd yn gwybod pwy sydd ar fai am sgwad truenus presennol y clwb…

Dros y blynyddoedd diweddar mae Ffergi wedi methu dod o hyd i’r Roy Blîn newydd, gan brynu fflops niferus megis Eric Djemba Djemba, Kleberson ac Anderson.


Methu fu ei hanes wrth ganfod Paul SGôls newydd hefyd, a bu’n rhaid dandwn y cochyn o’i ymddeoliad y tymor diwetha’ er mwyn sicrhau’r bencampwriaeth.

Ydy, mae’n wyrth/warth fod Ffergi wedi ennill y Prem efo’r tîm sala’ fu gan Man U ers dyddiau Danny Wallace a Pheter Davenport…ond y Sgotyn Trwyngoch sydd ar fai am adael i ganol cae Man U ddirywio i’r fath raddau.

Meddyliwch mewn difrif calon, Phil ‘yr asyn’ Jones a Tom ‘not so’ Cleverly oedd yr unig ddau ar gael i chwarae ynghanol cae Man U ddydd Sadwrn!


David Moyes (Jason Gulledge CCA2.0)
Er mwyn ennill y Prem a gorffen ei yrfa ar ben y domen, fe lynodd Ffergi at ddoniau’r hen feistri Sgôls a Giggs…petae o wedi trafferthu datblygu talent newydd, ni fyddai’r clwb yn y picil presennol.

Ond ewadd, rhaid diolch i Ffergi hefyd. Arhosom yn hir iawn i weld gwepiau surion ar derasau Yr Hen Draffordd!