Stephen McPhail
Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Stephen McPhail, wedi dweud bod yr Adar Glas yn hyderus ar drothwy eu 12 gêm olaf yn y Bencampwriaeth.
Mae tîm Dave Jones yn drydydd yn yr adran ar hyn o bryd yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Hull City dros y penwythnos.
Bydd angen rhediad da ar yr Adar Glas dros yr wythnosau nesaf os ydyn nhw am gau’r bwlch ar Abertawe a QPR sydd ar frig y tabl.
“Roedd pawb wedi dweud cyn gêm Hull y byddai angen i ni fod ar ein gorau i sicrhau buddugoliaeth,” meddai Stephen McPhail. “Ac roedden ni wedi rheoli’r gêm.
“Ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen a cheisio ennill mwy o gemau. Mae’n anochel ein bod ni’n mynd i brofi ambell siom ac ni fydd y 12 gêm nesaf yn rhai hawdd.
Mae McPhail yn credu y bydd ymosodwyr Caerdydd yn allweddol ar gyfer llwyddiant y clwb wrth iddynt wthio am ddyrchafiad.
“Mae siŵr o fod yn frawychus gorfod wynebu Bothroyd, Chopra a Bellamy,” meddai.
“Mae yna rywbeth yn bod os nad ydych chi’n gallu sgorio goliau â chwaraewyr o’r safon yna eich tîm.
“Fe fydd rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n creu cyfleoedd iddyn nhw ac fe fyddwn nhw’n siŵr o sgorio.”