Mae tîm pêl-droed UWIC yng Nghaerdydd yn edrych ymlaen at eu her fwyaf hyd yma y prynhawn yma.

Ar ôl rhediad hynod lwyddiannus, mae’r myfyrwyr bellach wedi cyrraedd rownd go-gynderfynol Cwpan Cymru.

A hwythau eisoes wedi curo’r Bala, maen nhw’n llawn hyder wrth wynebu Gap Cei Connah y prynhawn yma.

“Rydan ni wedi bod yn aros yma yng Nghei Connah ers neithiwr,” meddai Trystan Dafydd o’r Felinheli, un o chwaraewyr tîm UWIC.

“Ar ôl llwyddo i gyrraedd wyth olaf Cymru yn y gystadleuaeth, rydan ni’n benderfynol o ddal ati, a rydan ni’n teimlo’n gwbl hyderus wrth edrych ymlaen at y prynhawn yma.”