Adam Matthews
Mae clwb pêl-droed Celtic wedi cadarnhau y bydd amddiffynnwr Caerdydd, Adam Matthews, yn ymuno gyda nhw ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd y Cymro’n ymuno gyda chewri pêl droed yr Alban ar 1 Gorffennaf ar gytundeb pedair blynedd.

Roedd cytundeb presennol Adam Matthews gyda Chaerdydd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac fe wrthododd gynnig newydd  i aros gyda’r Adar Glas.

Daeth yr amddiffynnwr i’r amlwg yn ystod tymor addawol y llynedd ac roedd yna adroddiadau bod Man Utd ac Arsenal yn barod i dalu £4m amdano.

Ond dim ond dwy gêm mae o wedi eu dechrau i’r clwb y tymor yma, wrth i Kevin McNaughton, Darcy Blake a Paul Quinn achub y blaen arno.

Dyma’r ail chwaraewr mae Celtic wedi ei gipio oddi ar Gaerdydd yn ddiweddar – gadawodd Joe Ledley i ymuno gyda’r clwb o Glasgow’r llynedd.

“Mae o yn un o’r chwaraewyr mwyaf addawol a chyffrous y Bencampwriaeth,” meddai Celtic ar eu gwefan swyddogol.