Mae
Sven-Goran Eriksson
wedi rhybuddio Lloegr fod Cymru yn fygythiad cyn eu gêm ragbrofol fis nesaf.

Mae gan gyn hyfforddwr Lloegr brofiad o gemau ddarbi Prydeinig, ac ef oedd wrth y llyw pan gollodd y Saeson i Ogledd Iwerddon mewn gêm ragbrofol yn 2005.

“Roedd Gogledd Iwerddon wedi gwneud yn dda yn ein herbyn, ond fe gollwyd y gêm oherwydd ein bod ni wedi chwarae’n wael,” meddai Sven-Goran Eriksson wrth bapur newydd y Western Mail.

“Dyna oedd y gêm waethaf i Loegr chwarae yn ystod fy nghyfnod i yn hyfforddwr.

“Fe fydd y gêm yn erbyn Cymru yn debyg iawn. Mae pob un o’r gwledydd cartref yn awyddus i guro Lloegr.

“Mae gemau Cymru a Lloegr yn rhai arbennig ac fe fydd yna lawer o angerdd yn y gêm yng Nghaerdydd.

“Fe fydd Lloegr yn ffefrynnau oherwydd safon eu chwaraewyr – ond fe fydd rhaid iddyn nhw fod ar eu gorau.

“Colli Cymru 3-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghwpan y Cenhedloedd – ond ni fydd hynny’n bwysig yng Nghaerdydd.  Fe fydd chwaraewyr Cymru yn barod am yr her.”

‘Dyfodol disglair’

Mae Eriksson yn credu fod gan Gymru ddyfodol ddisglair o dan eu rheolwr newydd, Gary Speed.

“Mae gan Gymru dîm da, rheolwr newydd a dyfodol disglair,” nododd rheolwr Caerlŷr.

“Rwy’n hoff iawn o Aaron Ramsey. Mae’n chwaraewr talentog iawn ac mae’n braf ei weld yn ôl yn dilyn ei anaf.

“Mae Aaron yn un o nifer o chwaraewyr ifanc Cymreig sy’n dod trwyddo ar hyn o bryd.  Rydw i wedi bod yn siarad gydag Andy King, ac r’yn ni’n gytûn bod gan ei dîm rhyngwladol dyfodol da.”