Joe Ledley
Mae amheuaeth am ffitrwydd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Ledley, ar gyfer gem Celtic yn erbyn AC Milan yng Nghynghrair y Pencampwyr nos yfory.

Mae Joe Ledley wedi teithio i’r Eidal gyda gweddill y garfan ond mae ganddo broblem gyda’i afl. Mae’n bosib y bydd yn ymuno a’i gyd-chwaraewyr, James Forrest a Beram Kayal, sydd hefyd wedi eu hanafu.

Ond mae un arall o chwaraewyr Cymru, Adam Matthews wedi dod dros yr anaf i’w ffêr ac mae’n debyg y bydd yn dechrau’r gêm nos yfory.