Mae’r Bala gam yn nes at yr ail rownd ragbrofol yng Nghwpan Europa yn dilyn buddugoliaeth o 1-0 neithiwr yn erbyn Levadia Tallinn yn Y Rhyl.

Ian Sheridan sgoriodd y gôl yn y fuddugoliaeth fwyaf yn hanes y clwb, wrth iddyn nhw drechu pencampwyr Estonia.

Bu’r Bala wrthi’n hyfforddi am bythefnos yn unig cyn yr ornest fawr, tra bod eu gwrthwynebwyr yng nghanol eu tymor nhw adref.

Sgoriodd Sheridan ar ôl pedair munud pan gafodd afael ar y bêl o ganol sgarmes yn dilyn cic gornel.

Roedd digon o gyffro wrth geg y gôl i’r ddau dîm, er bod Levadia wedi cael y rhan fwyaf o’r meddiant yn ystod y gêm.

Saethodd Ilja Antonov y bêl dros y trawst wrth geisio unioni’r sgôr o’r tu allan i’r cwrt cosbi, ond daeth y cyfleoedd gorau i’r Bala.

Saethodd y chwaraewr canol cae, Mark Jones o ymyl y cwrt cosbi ond cafodd ei harbed gan Roman Smishko, ac fe anelodd Jones y bêl heibio’r postyn o’r gic gornel a ddilynodd.

Daeth Artom Artjunin o fewn trwch blewyn i unioni’r sgôr hefyd wrth i’w gic rydd daro’r postyn, ond daeth cyfle arall i Sheridan ychwanegu at ei gôl gyntaf wrth geisio taro’r bêl dros ben y golwr.

Fe fydd yr ail gymal yn cael ei chynnal yn Estonia ar Orffennaf 11.