Aberystwyth 4–3 Lido Afan

Aberystwyth oedd yn fuddugol yn y frwydr tua gwaelodion Uwch Gynghrair Cymru o flaen camerâu Sgorio ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn.

Lido Afan oedd yr ymwelwyr i’r canolbarth ac roedd y ddau dîm yn chwilio am dri phwynt i’w helpu i aros yn y gynghrair. Aeth Aberystwyth ar y blaen bedair gwaith yn y gêm ac roedd hynny unwaith yn ormod i Lido, a lwyddodd i unioni deirgwaith, ond ddim am y pedwerydd tro.

Hanner Cyntaf

Ychydig dros ddau funud oedd ar y cloc pan agorodd Wyn Thomas y sgorio mewn steil. Crymanodd gic rydd bwerus yn syth i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

Aberystwyth oedd y tîm gorau heb os ond Lido gafodd y cyfle nesaf serch hynny – peniad rhydd i Anthony Rawlings yn y cwrt chwech ond gwnaeth Mike Lewis yn y gôl i Aber yn dda iawn i’w atal.

Ond fe wnaeth yr ymwelwyr unioni wedi ychydig llai na hanner awr, ac os oedd y gôl gyntaf yn un dda, roedd hon yn llawn cystal. Disgynnodd y bêl yn garedig i Luke Borelli ar ochr y cwrt cosbi a waldiodd yntau hi i’r gornel uchaf.

Roedd Aber yn ôl ar y blaen bum munud cyn yr egwyl pan grymanodd Antonio Corbisiero gic rydd yn syth i’r rhwyd er bod awgrym o drosedd ar Kristian Rogers yn y gôl.

Munud yn unig a barodd y fantais wrth i Simon Prangley unioni’n syth o’r ail ddechrau. Rheolodd yn dda yn y cwrt cosbi cyn curo Lewis yn y gôl.

Ail Hanner

Roedd Aberystwyth yn ôl ar y blaen toc cyn yr awr diolch i gôl Mark Jones yn erbyn ei gyn glwb ac roedd hon yn gôl dda hefyd. Cyfunodd Gavin Cadwallader, Declan Carroll a Jones yn dda cyn i gyn flaenwr Lido rwydo.

Ond wnaeth yr ymwelwyr ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt yn gyfartal eto ugain munud o’r diwedd diolch i gôl Rawlings.

Aberystwyth oedd y tîm gorau serch hynny ac roeddynt yn llawn haeddu ennill y gêm gydag ail gôl Thomas. Doedd neb yn marcio’r amddiffynnwr canol a chymerodd ei gyfle fel blaenwr gyda foli daclus.

Ymateb

Seren y gêm, amddiffynnwr a chapten Aberystwyth, Wyn Thomas:

“Doedd hi ddim yn gêm dda, roedd amddiffyn y ddau dîm yn wael iawn hed ond y tri phwynt oedd yn bwysig heddiw

Mae’r canlyniad yn codi Aberystwyth i’r nawfed safle tra mae Lido Afan yn aros yn sownd ar y gwaelod.

.

Aberystwyth

Tîm: Lewis, Cadwallader, Davies, Jones, Thomas, Morgan (Follows 46’), Corbisiero, Venables, Carroll, Jones, Hughes (Walsh)

Goliau: Thomas 3’, 72’ Corbisiero 40’, Jones 58’

Cardiau Melyn: Morgan 45’, Jones 76’, Venables 90’, Thomas 90’

.

Lido Afan

Tîm: Rogers, Hudson (Gammond 85’), Crutch, James, Phillips, Graves, Rawlings (Hall 80’), Howard (Thompson 85’), Hartland, Borrelli, Prangley

Goliau: Borrelli 29’, Prangley 41’, Rawlings 69’

Cardiau Melyn: Borrelli 33’, Howard 59’

.

Torf: 293