Ni fydd tîm criced Morgannwg yn defnyddio’r enw Dreigiau Cymru ar gyfer gemau undydd y tymor nesaf.

Bydd y clwb yn dathlu 125 o flynyddoedd y tymor nesaf, ac mae’r clwb wedi penderfynu dychwelyd i’w ddelwedd draddodiadol.

Byddan nhw’n cael eu galw’n Forgannwg ar gyfer pob fformat, ac yn ail-gyflwyno’r daffodil yn logo swyddogol y clwb.

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Alan Hamer: “Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi penderfynu galw ein hunain, yn syml iawn, yn Forgannwg.

“Rwy’n credu bod angen i ni fod yn onest a chyfaddef fod y penderfyniad a wnaethon ni’r tymor diwethaf i ail-frandio ein tîm undydd yn Ddreigiau Cymru heb fod mor llwyddiannus ag yr oeddem wedi gobeithio.

“Mae Morgannwg yn frand cryf a bydd y tymor nesaf yn 125fed pen-blwydd arnom ni – rydym yn glwb gyda hanes balch ac rydym yn credu bod y cyhoeddiad heddiw er lles y clwb.”

Cafodd Clwb Criced Morgannwg ei sefydlu ym 1888.

Chwaraeodd y sir eu gêm gyntaf ym 1889, cyn ymuno â Phencampwriaeth y Siroedd Llai ym 1897.

Cafodd y clwb ei ddyrchafu i Bencampwriaeth y Siroedd ym 1921, a chael cartref ym Mharc yr Arfau.