Mae Morgannwg wedi cadarnhau y bydd y bowliwr Robert Croft yn ymddeol ar ddiwedd y tymor presennol.

Fe wnaeth Croft, 42 oed, chwarae 21 gêm prawf i Loegr a chipio dros 1,000 o whicedi a llwyddo i gael dros 10,000 o rediadau i Forgannwg.

Bydd Croft yn aros gyda’r clwb mewn rôl hyfforddi, ac yna rôl llysgenhadol unwaith y daw y tymor i ben.

‘‘Yr wyf yn ystyried fy hun yn chwaraewr lwcus o fod wedi chwarae am gyfnod hir ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais dros y blynyddoedd o’n gyd-chwaraewyr, hyfforddwyr ac yn bwysicaf oll, gan fy nheulu a’m ffrindiau,’’ meddai Croft.

‘‘Yn ogystal rwyf wedi bod yn ffodus o fod wedi chwarae gyda nifer o chwaraewyr gwych yn Morgannwg ac yn Lloegr, a chael profiadau byth gofiadwy, da a drwg yn y ddau.  Profiadau a fydd yn aros yn fy nghof am byth,’’ ychwanegodd.

‘‘Mae record chwarae Robert yn siarad drosto’i hun, ac yr wyf yn gobeithio y bydd nifer fawr o gefnogwyr yn mynychu’r gêm yn erbyn Caint yr wythnos nesaf i’w ffarelio a fydd yn hollol haeddiannol o gael,’’ dywedodd Alan Hamer, Prif Weithredwr Morgannwg.

‘‘Rydym yn filch bod Robert yn aros gyda ni, nid yn unig i gynorthwyo y cricedwyr ifanc, ond i godi proffil Morgannwg a chriced Cymru,’’ ychwanegodd Hamer.

‘‘Rwy’n gobeithio y gallaf rhannu fy ngwybodaeth ar sut y mae bowliwr neu batiwr yn ymdopi mewn sefyllfa penodol yn ystod y gêm.  Ond rwy’n falch i allu barhau i wneud fy rhan mewn criced Cymru.”