Robert Croft
Mae troellwr Morgannwg, Robert Croft wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r byd criced ar ddiwedd y tymor.

Bu’r chwaraewr amryddawn, sy’n 42 oed, yn cynrychioli Morgannwg ers 1989.

Mae e wedi sgorio 12,879 o rediadau dosbarth cyntaf, gan gipio 1,168 o wicedi.

Cynrychiolodd Loegr mewn 21 o gemau prawf (a chipio 49 o wicedi) a 50 o gemau undydd (45 o wicedi), gan ymddangos ar y llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf ym 1996 mewn gêm brawf yn erbyn Pacistan.

Chwaraeodd dros Loegr am y tro olaf yn 2000/01 cyn tynnu allan o’r daith i India yn dilyn ymosodiadau terfysgol 9/11.

Dywedodd fod cynrychioli Morgannwg fel cynrychioli tîm rygbi Cymru, a bod cynrychioli tîm rhyngwladol Lloegr fel cynrychioli’r Llewod ar y cae rygbi.

Bu’n aelod o dîm Morgannwg a enillodd Gynghrair AXA Equity and Law ym 1993 ar gae Caergaint, a Phencampwriaeth y Siroedd ym 1997 yn Taunton.

Cynrychiolodd Forgannwg hefyd yn rownd derfynol cwpan Benson and Hedges ar gae Lord’s yn 2000.

Cafodd ei benodi’n hyfforddwr ar chwaraewyr ifanc y sir y tymor diwethaf ac mae disgwyl iddo gyfuno’i waith fel hyfforddwr gyda gwaith marchnata i’r clwb.