Robert Croft
Mae Robert Croft wedi dweud bod Kevin Pietersen wedi dangos amarch tuag at gyn gapten Lloegr Andrew Strauss trwy ddanfon negeseuon testun i chwaraewyr De Affrica.
Yn ôl Crofft mae Strauss yn haeddu clod am ennill cyfres y Lludw yn Awstralia ac arwain Lloegr i’r brig.
Bydd Alastair Cook, sydd bellach yn gapten ar Loegr, yn ffigwr allweddol wrth benderfynu dyfodol Pietersen yng ngharfan Lloegr. Bydd rhaid i Pietersen ddatgelu cynnwys y negeseuon testun a anfonodd i dîm De Affrica.