Matthew Mott Llun: Morgannwg
Mae Morgannwg wedi caniatáu i’w hyfforddwr Matthew Mott gael ei gyfweld gan Seland Newydd  ar gyfer swydd prif hyfforddwr y wlad.

Mae’r Awstraliad Matthew Mott wedi bod yn brif hyfforddwr ar Forgannwg ers Ionawr y llynedd a dywedodd Morgannwg eu bod nhw’n awyddus i ddal gafael arno ond nad oedden nhw am ei atal rhag ymgeisio am swydd gyda’r Capiau Duon.

“Fel pob hyfforddwr da mae gan Matthew Mott ddyhead i hyfforddi ar y lefel uchaf felly rydym ni wedi rhoi sêl bendith iddo drafod gyda Chriced Seland Newydd” meddai Alan Hamer, Cadeirydd Morgannwg.

Mae disgwyl i’r broses gyfweld ddod i ben erbyn diwedd y mis.

Nid yw Morgannwg yn cael tymor llwyddiannus eleni a dydyn nhw ddim wedi ennill yr un o’u naw gêm hyd yn hyn yn ail adran cynghrair y siroedd.