Tom Maynard
Bydd Clwb Criced Morgannwg yn cyfarfod heddiw i benderfynu os bydd y gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon nos Fercher yn mynd yn ei blaen neu beidio.

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) eisoes wedi datgan eu bod yn fodlon gohirio’r gêm yn y gystadleuaeth 20 pelawd yn Stadiwm Swalec.

Bu farw’r cricedwr addawol o Gaerdydd, Tom Maynard, yn oriau man y bore ddoe wedi iddo gael ei daro gan drên. Roedd yn 23 oed.

Chwaraeodd dros Forgannwg am bedwar tymor cyn gadael i ymuno â Surrey ar ddechrau 2011.

Fel arwydd o barch, mae Clwb Criced Surrey wedi gohirio eu gêm yn erbyn yr Hampshire Royals nos Fercher.

Bydd munud o dawelwch yn y gêm rhwng Lloegr ac India’r Gorllewin nes ymlaen heddiw, a bydd y chwaraewyr ar y naill dîm yn gwisgo bandiau du.

Daeth tîm criced Lloegr i wybod am farwolaeth Tom Maynard mewn cyfarfod bore ddoe.

Mae Jade Dernbach, a oedd yn chwarae i Surrey gyda Tom Maynard, ac a oedd yn ffrind agos iddo, bron yn sicr o fethu’r gêm honno.