Rhoddwyd gorau i’r gêm griced Pencampwriaeth Adran Dau rhwng Swydd Gaerloyw a Morgannwg heddiw ar ôl i’r glaw trwm dros nos socian y llain chwarae yn y County Ground ym Mryste.

Dyma’r tro cyntaf i gêm bencampwriaeth ym Mryste gael ei gohirio oherwydd tywydd gwael ers Mehefin 1985.