Mae Criced Morgannwg wedi cyhoeddi heddiw bod y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan yn ymuno â’r Sir.

Bydd Hogan, sy’n 30 oed, yn ymuno ym mis Gorffennaf eleni ac mae wedi arwyddo cytundeb tair blynedd o hyd gyda’r tîm Cymreig.

Ar hyn o bryd, mae Hogan yn un o sêr mwyaf talaith Gorllewin Awstralia ac mae ei berfformiadau diweddar wedi ennill lle iddo yn ‘nhîm sêr pedwar diwrnod’ Cymdeithas Griced Awstralia.

Ychwanegiad gwerthfawr

Mae’r bowliwr cyflym llaw dde wedi chwarae 27 o gemau dosbarth cyntaf i Orllewin Awstralia ac fe’i hargymhellwyd i Forgannwg gan ei gapten, Marcus North, sydd hefyd yn ymuno â Morgannwg eleni.

“Ry’n ni wrth ein bodd i allu sicrhau gwasanaeth Michael am y tair blynedd nesaf o leiaf,” meddai Mathew Mott, Pennaeth Perfformiad Elit Morgannwg.

“Mae’n gricedwr talentog a bydd yn cryfhau ein hymosod o ran y bowlio. Bydd yn ychwanegiad gwerthfawr i’r garfan.”

“Bydd ei bresenoldeb yn helpu rhannu’r baich tuag at ddiwedd y tymor ac yn rhoi cyfle i’n bowlwyr ifanc talentog allu datblygu. Bydd chwarae wrth ochr bowliwr ffres, aeddfed a sefydledig yn eu helpu nhw i gamu i’r lefel nesaf.”

Uchelgeisiol

Yn ôl y chwaraewr, mae’r cyfle i chwarae criced yn y Deyrnas Gyfunol yn gwireddu breuddwyd iddo.

“Dwi wrth fy modd i allu ymuno â Morgannwg,” meddai Hogan.

“Rwy wastad wedi bod yn awyddus i chwarae ym Mhrydain ac yn falch i allu ymuno â sir sydd mor uchelgeisiol ac angerddol.

“Mae’r clwb yn gweithio’n galed i geisio llwyddo ar y cae chwarae ac rwy’n falch i allu bod yn rhan o’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”