Mae Morgannwg yn ystyried cyfnewid prawf rhyngwladol am bum gêm yn ail gystadleuaeth undydd fwya’r byd.

Fe gadarnhaodd y sir eu bod wedi cael cynnig cynnal gemau yn Nhlws Pencampwyr yr ICC yn hytrach na’r prawf rhwng Lloegr a Seland Newydd yn 2013.

Ond, yn eu datganiad, maen nhw’n pwysleisio na fydd y newid yn digwydd heb sicrwydd fod hynny o fudd i’r sir.

Maen nhw’n dweud eu bod yn sicr y byddai gêm Seland Newydd yn talu’i ffordd yn Stadiwm SWALEC, er mai cymysg yw record y sir ers dechrau cynnal gemau rhyngwladol.

Roedd y gynta’n llwyddiant mawr ond gêm arall yn erbyn Sri Lanka wedi bod yn fethiant ariannol ar ôl tywydd gwael.

‘Cynyddu enw Cymru’

“Heb amheuaeth, byddai’r cyfle i gynnal nifer o gemau uchel eu proffil yng Nghaerdydd yn syniad cyffrous ac yn gwneud llawer i gynyddu enw Cymru fel lle ar gyfer criced o’r safon uchaf,” meddai’r clwb.

Maen nhw’n dweud bod tocynnau’n gwerthu’n dda ar gyfer y gêm ryngwladol undydd rhwng Lloegr a De Affrica yn y SWALEC ym mis Awst.