Cyhoeddodd clwb Criced Morgannwg heddiw fod termau ariannol newydd wedi cael eu cytuno, er mwyn sicrhau dyfodol y clwb am nifer o flynyddoedd.

Cytunwyd i ad-drefnu benthyciadau gyda Allied Irish Bank, Cyngor Caerdydd a Paul Russell.

Mae’r Clwb hefyd wedi llwyddo i gael £1.3 miliwn gan grŵp o fuddsoddwyr preifat.

Dywedodd Cadeirydd y Clwb, Barry o’ Brien: “Rydym ni’n falch iawn i allu gwneud y cyhoeddiad hanesyddol yma heddiw, sy’n sicrhau ein dyfodol ac yn dangos yr hyder sydd gan ein buddsoddwyr yn nyfodol y Clwb.

“Gallwn ni nawr edrych ymlaen i dymor 2012… a fydd yn gweld y Clwb yn cynnal Gêm Undydd Rhyngwladol rhwng Lloegr a De Affrica, ac hefyd Rownd derfynol Friends Lifet20 ym mis Awst.”