Oni bai am y coronafeirws, gyda’r tymor criced wedi’i ohirio tan fis Awst, fe fyddai tîm criced Morgannwg wedi bod yn teithio i Fryste ar gyfer gornest ugain pelawd yn y Vitality Blast heddiw (dydd Mercher, Mehefin 3).

 Yn y darn diweddara’n edrych yn ôl ar rai o gemau’r gorffennol, gornest o 2015 sydd dan sylw, pan darodd y ddau gapten, Jacques Rudolph a Michael Klinger ganred yr un.

Roedd ymdrech capten Morgannwg – 101 heb fod allan oddi ar 71 o belenni – yn ddigon i sicrhau sgôr o 191 am dair mewn ugain pelawd ar ôl i Forgannwg gael eu gwahodd i fatio.

Arbrawf oedd y bartneriaeth agoriadol rhwng y capten a’r chwaraewr amryddawn Craig Meschede, y ddau yn enedigol o Dde Affrica’n cyfuno i sgorio 78 yn y naw pelawd cyntaf.

Collodd y capten ei bartner wedyn, gyda’r bowliwr Benny Howell yn gorffen ei bedair pelawd gyda dwy wiced am 24.

Ond parhau i gosbi’r bowlwyr eraill wnaeth Jacques Rudolph, gan gyrraedd ei hanner canred oddi ar 37 o belenni wrth gyrraedd y garreg filltir am yr ail fatiad yn olynol, a’i nawfed hanner canred mewn gemau ugain pelawd i’r sir.

Llwyddodd y capten ac un arall o’i gydwladwyr, Colin Ingram, i sgorio 50 oddi ar chwe phelawd cyn i Rudolph golli partner arall.

Batiwr arall eto fyth o Dde Affrica, Chris Cooke, oedd ei bartner nesaf ac fe aeth Rudolph heibio’i sgôr gorau blaenorol o 83 yn ystod y bartneriaeth.

Wrth gyrraedd ei ganred, Rudolph oedd y trydydd batiwr erioed yn hanes Morgannwg i daro canred mewn gêm ugain pelawd, ac fe wnaeth hynny gydag 13 o ergydion i’r ffin.

Ymateb y capten cartref

Doedd yr Awstraliad Michael Klinger ddim am gael ei wthio i’r cyrion ar ei domen ei hun, c roedd ar frys i ddechrau cwrso nod digon swmpus y gwrthwynebwyr.

Gyda’r tywydd yn gwaethygu, roedd amheuon na fyddai modd parhau â’r gêm, ac y byddai’n pylu i fod yn ddiweddglo siomedig.

Ond nid felly y bu ar ôl i Forgannwg wneud i gyd-chwaraewyr y capten ddioddef, gydag un ar ôl y llall yn dychwelyd i’r cwt wedi colli’u wicedi.

Ar ôl colli’r batwyr cydnabyddedig yn hanner cynta’r batiad, parhau i frwydro wnaeth Klinger ar ei ffordd i hanner canred oddi ar 33 o belenni – ei bedwerydd hanner canred yn olynol.

47 oddi ar dair pelawd ola’r batiad oedd y nod i Swydd Gaerloyw, oedd yn parhau i golli wicedi.

Ond cyrhaeddodd Klinger ei ganred oddi ar 61 o belenni – ei drydydd canred mewn pedwar batiad a chyfanswm o 403 o rediadau ar gyfradd sgorio o 163.

Roedd buddugoliaeth Morgannwg o 19 o rediadau’n golygu bod y Saeson wedi colli’u record 100% ar eu tomen eu hunain yn yr ymgyrch.

Aeth Morgannwg yn eu blaenau i orffen yn gydradd pumed yn y tabl gyda Swydd Gaerloyw, un pwynt yn unig i ffwrdd o’r pedwerydd safle fyddai wedi sicrhau lle i’r naill neu’r llall yn rownd yr wyth olaf.