Yn y darn diweddaraf yn edrych yn ôl ar rai o gemau criced y gorffennol, wrth i’r byd fynd yn ei flaen heb chwaraeon, taith wastraff Morgannwg i Durham ar ddiwedd y tymor diwethaf sydd dan sylw.

Roedd y ffaith fod sir y daffodil yn teithio i Chester-le-Street ar ddiwedd y tymor diwethaf â’r llygedyn lleiaf o obaith o ennill dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth yn dyst i ba mor bell roedden nhw wedi dod o dan arweiniad Matthew Maynard a Mark Wallace, flwyddyn ar ôl diswyddo Robert Croft.

Serch hynny, roedd angen gwyrth o hyd arnyn nhw er eu bod nhw’n bedwerydd cyn y gêm olaf, a dim ond tair sir yn cael esgyn o’r ail adran, gyda Sussex, Durham a Middlesex eisoes allan o’r ras.

Swydd Northampton a Swydd Gaerloyw, oedd yn ail a thrydydd, oedd y ffefrynnau i ennill dyrchafiad, wrth iddyn nhw herio’i gilydd ym Mryste yn y gêm olaf ac roedden nhw’n gwybod fod gêm gyfartal yn ddigon i gloi’r sir Gymreig allan o’r ras.

Roedd 21 pwynt yn gwahanu Morgannwg a Swydd Northampton, ac 16 pwynt rhwng y sir Gymreig a’u cymdogion agosaf y tu draw i’r ffin.

Roedd yr hafaliad yn syml i Forgannwg – roedd angen pwyntiau bonws llawn arnyn nhw wrth guro Durham, oedd yn bumed, a dibynnu ar Swydd Northampton i guro Swydd Gaerloyw.

Ond doedd hanes yn sicr ddim o’u plaid nhw ar gae lle’r oedden nhw heb fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth ers 2004 – y tymor pan gipion nhw ddyrchafiad y tro diwethaf.

Manylion y dilyw

A doedd y tywydd ddim o’u plaid nhw dros y pedwar diwrnod chwaith.

Dim ond 86.4 o belawdau oedd yn bosib yn ystod y deuddydd cyntaf, ond roedd hynny’n ddigon i BJ Watling, batiwr Seland Newydd, daro 104 heb fod allan wrth i’w dîm gyrraedd 262 am wyth.

Ond roedd yr ysgrifen eisoes ar y mur i lawr yn ne-orllewin Lloegr lle’r oedd y glaw hefyd wedi bod yn cwympo’n drwm.

Roedd gêm gyfartal yn anochel yn y fan honno hefyd, ac fe gafodd gobeithion Morgannwg eu golchi i ffwrdd.

Er y siom, roedd yn gyfle i fyfyrio ar ba mor bell roedd Morgannwg wedi dod mewn cyfnod byr ac roedd yn argoeli’n dda ar gyfer tymor sy’n edrych yn llai tebygol o gael ei gynnal gyda phob wythnos o’r haf sy’n mynd heibio erbyn hyn.