Mae’r cricedwyr oedd i fod i chwarae yn y gystadleuaeth ddinesig newydd, y Can Pelen, wedi cael gwybod fod eu cytundebau wedi cael eu dileu.

Daw’r penderfyniad ar ôl i’r gystadleuaeth, sy’n cynnwys tîm y Tân Cymreig yng Nghaerdydd, gael ei gohirio tan y tymor nesaf.

Ymhlith y sêr oedd i fod i chwarae yng Nghymru mae’r Awstraliaid Steve Smith a Mitchell Starc, ynghyd â’r Sais Jonny Bairstow.

Cafodd timau’r dynion eu dewis fel rhan o broses ddrafftio fis Hydref, ond doedd timau’r merched ddim yn gyflawn pan ddaeth y penderfyniad i ohirio’r gystadleuaeth.

Yn ôl Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, maen nhw’n cydweithio â Chymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) i drafod y cam nesaf.

Roedd disgwyl i’r gystadleuaeth newydd sbon ddechrau ar Orffennaf 17 ac yn ôl adroddiadau, mae’r chwaraewyr a gafodd eu dewis eisoes wedi derbyn rhyw 20% o’u cyflogau, gyda’r gweddill yn ddyledus ar ddiwedd y gystadleuaeth.

Ynghyd â chyflogau’r hyfforddwyr, mae lle i gredu mai oddeutu £1m yw’r swm sy’n ddyledus o hyd.