Ar ôl i’r tymor criced gael ei ohirio tan o leiaf fis Gorffennaf yn sgil y coronafeirws, mae golwg360 yn edrych yn ôl ar rai o gemau a chymeriadau Morgannwg o’r gorffennol.

Dan sylw heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 25), ar y diwrnod y dylai Morgannwg fod yn dechrau eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn Grace Road, mae chwaraewr sydd wedi gwisgo crys y ddau dîm, sef Mark Cosgrove.

Ar ôl creu argraff yn ei flwyddyn gyntaf gyda Morgannwg yn 2006, treuliodd y batiwr llaw chwith o Awstralia ddau dymor llawn gyda’r sir yn 2009 a 2010, gan ddychwelyd ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd yn 2011.

Ond dyw gyrfa’r chwaraewr 35 oed o Adelaide ddim wedi bod yn fêl i gyd, ac fe allai fod wedi dod i ben yn rhy gynnar o lawer ar sawl achlysur dros y blynyddoedd, ac yntau wedi cael trafferth colli pwysau.

Gyrfa yn Awstralia

Llai na dwy flynedd ar ôl ei gêm gyntaf i dîm De Awstralia, cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Don Bradman yn 2005, oedd yn ddigon i sicrhau ei fod e’n cael ei ddewis yn nhîm undydd Awstralia i wynebu Bangladesh y flwyddyn ganlynol.

Roedd ei bwysau eisoes yn dechrau achosi problemau, serch hynny, ac yntau wedi’i wahardd am fis cyntaf tymor 2005-06 gan nad oedd ei ffitrwydd yn ddigon da ar ôl dychwelyd o chwarae ar lefel leol yn Lloegr.

Ond roedd hi’n amhosib i ddewiswyr y tîm cenedlaethol ei anwybyddu ar ôl iddo fe sgorio 736 o rediadau ar gyfartaledd o 66.90 yng Nghwpan Pura, a 591 o rediadau ar gyfartaledd o 73.87 mewn gemau undydd.

Yn ei gêm ryngwladol gyntaf, tarodd e 74 oddi ar 69 o belenni ac fe ddylai fod wedi cynrychioli Awstralia mwy na thair gwaith.

Ar ôl saith tymor gyda De Awstralia, symudodd e i Tasmania gan orffen ar frig rhestr prif sgorwyr y Sheffield Shield gydag 806 o rediadau ar gyfartaledd o 53.73 wrth i’w dîm ennill y gystadleuaeth, cyn ennill y teitl unwaith eto yn 2012-13.

Dychwelodd e i Dde Awstralia yn 2013-14.

Gyrfa yng Nghymru

Er na lwyddodd e i wireddu ei botensial yn ei famwlad, mae ei berfformiadau i Forgannwg a Swydd Gaerlŷr yn y gêm sirol yng Nghymru a Lloegr yn ei osod ymhlith yr Awstraliaid gorau y tu allan i’r tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn ystod ei gyfnod yng Nghymru, sgoriodd e 2,823 o rediadau, gan gynnwys deg canred, ar gyfartaledd o 52.27 mewn 60 gêm dosbarth cyntaf i’r sir, yn ogystal â 999 o rediadau ar gyfartaledd o 38.42 mewn gemau Rhestr A, a 991 o rediadau ar gyfartaledd o 27.91 mewn gemau ugain pelawd.

Daeth ei sgôr gorau i Forgannwg o 233 yn erbyn Swydd Derby yn 2006, wrth iddo adeiladu partneriaeth o 235 am y drydedd wiced gyda Mike Powell i arwain y Cymry i fuddugoliaeth o chwe wiced. Tan y tymor diwethaf, dyma’r tro diwethaf i Forgannwg guro Swydd Derby ar eu tomen eu hunain.

Dychwelodd i’w famwlad yn 2007 i ymuno â Chanolfan Ragoriaeth Awstralia, ond ar ôl cael ei wahardd o’r fan honno am ddiffyg ffitrwydd unwaith eto, fe ddychwelodd i Forgannwg unwaith eto yn 2009 gan adael De Awstralia y flwyddyn ganlynol ar ôl colli cytundeb.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Morgannwg yn 2010, ar ôl sgorio 1,187 o rediadau dosbarth cyntaf wrth i’r sir fethu â sicrhau dyrchafiad o drwch blewyn yn y Bencampwriaeth, ac fe sgoriodd e 959 o rediadau mewn gemau undydd yn ystod y tymor.

Ond cytundeb ugain pelawd yn unig gafodd e yn 2011, wrth i Forgannwg gael tymor siomedig a wnaeth e fyth chwarae i’r sir eto.

Ail wynt yng Nghaerlŷr

Ar ôl ail afael yn ei yrfa yn Ne Awstralia yn 2013-14, fe ddychwelodd e i’r gêm sirol yn Lloegr yn 2015 gyda chytundeb tair blynedd i fod yn gapten ar Swydd Gaerlŷr, oedd wedi cael sawl tymor llwm cyn hynny.

Roedd gan y tîm yn Grace Road enw drwg erbyn hynny am fod yn un o dimau gwanna’r Bencampwriaeth.

Yn 2016, tarodd e bum canred er i’w dîm orffen ar waelod y tabl am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Daeth ei dymor gorau i’r Saeson yn 2017, wrth iddo ennill pedair gwobr ar ddiwedd y tymor, gan gynnwys Chwaraewr y Flwyddyn ar ôl sgorio 1,112 o rediadau yn y Bencampwriaeth, 277 o rediadau mewn gemau 50 pelawd a 414 o rediadau mewn gemau ugain pelawd.

Serch hynny, roedd ei ymddygiad yn cael ei gwestiynu o hyd, ac fe fu’n rhaid iddo fethu’r gêm yn erbyn Morgannwg y tymor hwnnw am fethu â rheoli ei chwaraewyr yn dilyn sawl ffrae ar y cae mewn gemau blaenorol.

Codi gwên – ond yr hen broblem yn dychwelyd

Yn 2019, wrth ddychwelyd i Gaerdydd gyda Swydd Gaerlŷr, roedd enw Mark Cosgrove yn y penawdau am y rheswm anghywir unwaith eto, wrth iddo godi gwên wrth fatio.

Dyw senglau cyflym a Mark Cosgrove ddim yn ymddangos yn yr un frawddeg yn aml iawn – ac mae’r fideo isod o 2019 yn dangos pam!