Daeth y newyddion yr wythnos hon fod Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, wedi’i enwi’n un o bump Cricedwr y Flwyddyn 2020 gan Wisden – ynghyd â Jofra Archer, Ellyse Perry, Simon Harmer a Pat Cummins.

Mae’r wobr wedi’i rhoi’n flynyddol ers 1889, y flwyddyn ar ôl i Glwb Criced Morgannwg gael ei ffurfio, pan gafodd chwech o bobol eu gwobrwyo. Cafodd chwech eu gwobrwyo yn 1890 hefyd, ond mae wedi’i rhoi, ar ei ffurf bresennol, i bum chwaraewr ers 1891. Un gafodd ei wobrwyo yn 1896, 1913, 1921 a 1926, a phedwar yn 2011. Doedd dim gwobrau yn 1916 nac 1917 oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf, na chwaith rhwng 1941 a 1946 o ganlyniad i’r Ail Ryfel Byd.

A gyda llaw, dim ond unwaith yn ei yrfa all chwaraewr ymddangos ar y rhestr.

Felly, allan o gannoedd o gricedwyr sydd wedi’u gwobrwyo, dim ond 13 o chwaraewyr Morgannwg sydd wedi ennill y wobr. Y rhestr yn llawn yw Jack Mercer (1927), Maurice Turnbull (1931), Ossie Wheatley (1969), Majid Khan a Don Shepherd (1970), Roy Fredericks (1974), Alan Jones (1978), Javed Miandad (1982), Alan Butcher (1991), Steve Watkin (1994), Matthew Maynard (1998), Simon Jones (2006) a Marnus Labuschagne (2020).

Chwe Chymro sy’n ymddangos ar y rhestr – Maurice Turnbull, Don Shepherd, Alan Jones, Steve Watkin, Matthew Maynard a Simon Jones. Felly beth sy’n rhaid i Gymro ei wneud i ennill y wobr? Oes rhaid iddo fod cymaint yn well na phawb arall i gael ei ystyried, fel yn achos y rhai lwcus sy’n cael chwarae dros Loegr?

Maurice Turnbull o Gaerdydd, 1931

Fe gâi Maurice Turnbull ei ganmol am fod â meddwl arweinydd craff, personoliaeth hoffus a gwybodaeth drylwyr o dactegau’r gêm. Er nad oedd hi’n flwyddyn arbennig o dda i Forgannwg (yr un hen stori!), fe wnaethon nhw dipyn gwell na blynyddoedd cynt yn y Bencampwriaeth (cofiwch fod hyn cyn dyddiau’r gemau undydd).

Sgoriodd e gyfanswm o 1,739 o rediadau i gyd, gan gynnwys 1,520 yn y Bencampwriaeth ar gyfartaledd o fwy na 32, gan sicrhau lle yn nhîm yr MCC i herio De Affrica.

Hefyd ar y rhestr: Don Bradman, Clarrie Grimmett, Beverley Lyon ac Ian Peebles.

Don Shepherd o Borteinon, 1970

Er i gemau undydd gael eu cyflwyno yn 1969, yn y gêm pedwar diwrnod y disgleiriodd Morgannwg. Yr ail dro iddyn nhw godi’r tlws yn 1969 (yn 1948 ddaeth eu llwyddiant cyntaf), cafodd y troellwr o Benrhyn Gŵyr ei anrhydeddu â’r wobr fawr.

Cipiodd e wiced Brian Brain yn y gêm dyngedfennol yn erbyn Swydd Gaerwrangon wrth helpu ei dîm i ennill y tlws, a chyrraedd y garreg filltir bersonol syfrdanol ac unigryw o safbwynt y sir o 2,000 o wicedi dosbarth cyntaf.

Mae ei gyfanswm sirol o 2,218 o wicedi dosbarth cyntaf yn record i unrhyw fowliwr ar draws y siroedd sydd heb chwarae dros Loegr. Beth arall allai fod wedi’i wneud i haeddu cael cap?

Chwaraewr penigamp, darlledwr o fri a chymeriad annwyl ac uchel ei barch. Cawr o ddyn.

Hefyd ar y rhestr: Majid Khan (Morgannwg), Basil Butcher, Alan Knott a Mike Procter.

Alan Jones o Felindre, 1978

Cyrhaeddodd Morgannwg rownd derfynol Cwpan Gillette am y tro cyntaf erioed yn 1977. Y Cymro Cymraeg o ardal Abertawe oedd y capten, wrth iddyn nhw guro Surrey a Swydd Gaerlŷr ar eu ffordd i’r ffeinal.

Er i Forgannwg golli o bedair wiced yn erbyn Middlesex ar eu tomen eu hunain, bydd y gêm yn cael ei chofio am ergyd chwech enfawr Mike Llewellyn ddaeth o fewn trwch blewyn i glirio’r pafiliwn.

Er iddo gynrychioli Lloegr yn erbyn Gweddill y Byd yn 1970, doedd hi ddim yn cael ei hystyried yn gêm ryngwladol lawn ac felly wnaeth e ddim ennill cap swyddogol. Ond fe gafodd e gap seremonïol i nodi’r achlysur flynyddoedd yn ddiweddarach – ond yn rhy hwyr o lawer i’r batiwr gorau erioed sydd heb ennill cap dros Loegr.

Ymhell ar ôl ymddeol, mae’n uchel ei barch fel cyn-hyfforddwr a chyn-Lywydd y clwb ac fel Llywydd y clwb cefnogwyr, Orielwyr San Helen.

Hefyd ar y rhestr: Ian Botham, Mike Hendrick, Ken McEwan a Bob Willis.

Steve Watkin o Faesteg, 1994

Roedd y bowliwr cyflym a ddysgodd ei grefft ym Maesteg yn aelod allweddol o’r tîm yn eu hymgyrch undydd wrth godi tlws Cynghrair AXA Equity & Law yn 1993, ac fe gipiodd e 92 o wicedi dosbarth cyntaf.

Os oes angen dim ond un ansoddair i ddisgrifio Steve Watkin, cyson fyddai hwnnw – nid yn aml y byddai’n hawlio’r penawdau.

Blwyddyn Cyfres y Lludw oedd 1993. Mae’r Cymro, sydd yn aelod o dîm hyfforddi Morgannwg erbyn hyn, yn cadw cwmni ar y rhestr i bedwar Awstraliad – sydd unwaith eto’n dangos maint ei gamp.

Hefyd ar y rhestr: David Boon, Ian Healy, Merv Hughes a Shane Warne (bowliwr Pelen y Ganrif).

Matthew Maynard o Oldham (ond wedi’i fagu ym Mhorthaethwy), 1998

Roedd 1997 yn flwyddyn fawr eto i Forgannwg, wrth ennill y Bencampwriaeth am y trydydd tro. Tîm Cymreig iawn ei naws oedd hwn, oedd yn gwneud y fuddugoliaeth dros y siroedd Seisnig yn felysach fyth. Ac fel 1969, cafodd un o’r chwaraewyr gydnabyddiaeth gan Wisden. Yn Gog anrhydeddus, fe fu Matthew Maynard a’i deulu’n rhan annatod o’r clwb ers degawdau, ac yntau bellach yn brif hyfforddwr y sir.

Cyn dechrau’r tymor, roedd yr Independent yn dweud bod gan y capten y gallu i chwalu unrhyw fowliwr. Gorffennodd e’r tymor â chyfartaledd batio o 65 wrth sgorio 1,170 o rediadau – er i’w gyd-chwaraewr Steve James sgorio 1,775 (cyfartaledd 68.26).

Hefyd ar y rhestr: Matthew Elliott, Stuart Law, Glenn McGrath a Graham Thorpe.

Simon Jones o Lanelli, 2006

Ers buddugoliaeth Lloegr yng Nghyfres y Lludw yn 2005, mae’n debyg y daeth criced yn fwy poblogaidd. Ac roedd Simon Jones, y Cymro diwethaf i gynrychioli Lloegr, yn ei chanol hi.

Cipiodd y bowliwr cyflym o Lanelli dair wiced yn Lord’s ac Edgbaston a saith yn Old Trafford, ac roedd y gyfres yn gyfartal 1-1 ar ôl tair gêm (gyda’r llall yn gorffen yn gyfartal).

Cipiodd e bum wiced mewn batiad yn Trent Bridge wrth i Loegr fynd ar y blaen o 2-1. Ond ar ôl cipio 18 wiced, fe ddechreuodd ei hanes hir o anafiadau wrth iddo fethu’r gêm dyngedfennol olaf ar yr Oval. Yn anffodus, wnaeth e fyth lwyddo i ddod yn ôl ar ei orau wedyn.

Hefyd ar y rhestr: Matthew Hoggard, Brett Lee, Kevin Pietersen, Ricky Ponting.

Pwy nesaf?

Pwy, tybed, fydd y Cymro nesaf i’w anrhydeddu gan Wisden? Mae’n annhebygol y bydd neb yn cael ei anrhydeddu yn 2021 gyda chyn lleied o griced yn bosib y tymor hwn oherwydd y coronafeirws. Yr unig obaith, mae’n siŵr, yw fod Morgannwg yn ennill y Vitality Blast os bydd honno’n cael ei chynnal, er mor annhebygol yw hynny bellach. Y tu hwnt i hynny, mae Morgannwg yn ail adran y Bencampwriaeth ar ôl colli allan ar ddyrchafiad yn 2019 a doedd fawr o siâp arnyn nhw yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.

Fe fydd rhaid i’r Cymro nesaf i’w anrhydeddu fod yn dipyn o chwaraewr, ac mae’n bosib y byddwn ni’n aros blynyddoedd eto i weld yr un nesa’n cael ei anrhydeddu.