Fe fydd Cymro yn gapten swyddogol ar dîm criced Morgannwg am y tro cyntaf ers 2014 eleni, wrth i David Lloyd gael ei benodi i’r swydd ar gyfer Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd.

Fe hefyd yw’r chwaraewr cyntaf i’w eni yn y gogledd i gael ei benodi’n gapten ers Wilf Wooller o Landrillo yn Rhos yn 1947.

Cafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yn Wrecsam, gan ddechrau ei yrfa’n chwarae i’w dîm lleol yn Brymbo.

Mark Wallace, cyfarwyddwr criced y sir, oedd y Cymro diwethaf i gael ei benodi i’r swydd chwe blynedd yn ôl.

Mae David Lloyd yn llenwi bwlch sydd wedi’i adael gan Chris Cooke, fydd yn arwain y sir yn y Bencampwriaeth a chystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast ond a fydd yn chwarae i Birmingham yng nghystadleuaeth ddinesig y Can Pelen yn ystod ymgyrch Morgannwg yng Nghwpan Royal London.

Cafodd ei benodi’n is-gapten y tymor diwethaf, gan arwain yn absenoldeb Chris Cooke pan gafodd ei anafu, ac roedd Colin Ingram yn arwain y sir yn y gystadleuaeth ugain pelawd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, enillodd Morgannwg dair gêm a chael pedair gêm gyfartal yn y Bencampwriaeth.

“Talent”

“Mi wnes i wir fwynhau camu i fyny i fod yn gapten ac mae’n foment falch iawn i gael fy ngwahodd i arwain y tîm yng Nghwpan Royal London,” meddai’r chwaraewr amryddawn o Wrecsam.

“Mae gynnon ni griw gwych o hogia’ yn y clwb, a chryn dipyn o dalent o fewn y garfan, felly does dim rheswm pam na fedrwn ni adeiladu ar y gwelliant y tymor dwytha, a chyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth.”

Mae Mark Wallace yn dweud bod penodiad David Lloyd yn “newyddion gwych” i Forgannwg.

“Fe ddangosodd e nifer o rinweddau fel arweinydd y llynedd ac fe wnaeth e jobyn da o dan amgylchiadau anodd wrth fod yn ddirprwy i Chris,” meddai.

Chris Cooke yn parhau

Wrth arwain y sir yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, daeth Chris Cooke o fewn trwch blewyn i sicrhau dyrchafiad i Forgannwg, ei safle uchaf yn yr ail adran ers 2015.

“Roedd yn fraint cael arwain y clwb y tymor diwethaf, ac rwy wrth fy modd o gael parhau yn y rôl,” meddai’r wicedwr.

“Fe welson ni dipyn o welliant yn ein perfformiadau ym Mhencampwriaeth y Siroedd y tymor diwethaf, ac mae’n rhywbeth dw i eisiau i ni fynd gyda ni yn y Vitality Blast.

“Mae’n mynd i fod yn dymor cyffrous ac allwn ni ddim aros i gael dechrau a bwrw iddi ym mis Ebrill.”

Dywed Mark Wallace ei fod e’n uchel ei barch yn y clwb.

“Fe wnaeth Chris jobyn gwych yn ei dymor cyntaf wrth y llyw ac fe arweiniodd e’r tîm â chryn dipyn o frwdfrydedd a sgil.

“Mae’n ennyn cryn dipyn o barch yn yr ystafell newid, ac mae’n haeddu’r cyfle i barhau â’i waith da y llynedd ac i symud y clwb yn ei flaen.”