Roedd y tymor diwethaf yn drobwynt i Glwb Criced Morgannwg, yn ôl y capten Chris Cooke, sy’n dweud bod y sir yn gobeithio gwella a llwyddo ym mhob fformat yn 2020.

Fe fu’n siarad â golwg360 ar ddiwedd noson yn Amgueddfa Griced Cymru yng Nghaerdydd yn trafod ei yrfa, ac wrth i’r garfan ddechrau paratoi ar gyfer y tymor newydd wrth ddychwelyd i’r cae ymarfer yng Ngerddi Sophia.

Daeth y tîm o fewn trwch blewyn o ennill dyrchafiad i adran gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd, er iddyn nhw gael tymor siomedig yn y ddwy gystadleuaeth undydd.

“Roedd y tymor diwethaf yn sicr yn drobwynt, ac adeiladu ar hynny yw’r nod eleni,” meddai.

“Dw i’n gwybod ei bod wedi rhoi tipyn o hyder i bawb nad ydyn ni yma jyst i fod yn un o’r nifer.

“Rydyn ni’n ddigon da i ennill dyrchafiad ac i wthio amdano fe unwaith eto’r tymor hwn.

“Mae’n fater o fynd yn ôl at y safonau uchel wnaethon ni eu gosod i ni ein hunain, a cheisio codi’r safon eto oherwydd bydd y timau eraill wedi gwella dros y gaeaf hefyd, ond dw i’n credu bod pawb yn hyderus y gallwn ni fynd gam ymhellach.”

‘Hunaniaeth newydd’

Mae’n dweud mai ceisio creu hunaniaeth newydd i’r tîm yw’r allwedd i’w lwyddiant y tymor hwn, a’u bod nhw’n anelu am lwyddiant ym mhob fformat.

“Aeth rhywbeth o’i le yn y T20 a gall hynny ddigwydd os ydych chi’n dechrau’n wael ac yn colli gemau.

“Yn sydyn iawn, rydych chi’n chwarae dwy neu dair gêm o fewn wythnos ac fe all y gystadleuaeth fynd o’ch gafael chi.

“Ond mae angen i ni fynd yn ôl i gynllunio a chreu hunaniaeth newydd a phenderfynu sut rydyn ni eisiau chwarae.

“Does dim rheswm pam na allwn ni ddychwelyd i’r hyn oedden ni dros y bum mlynedd diwethaf.”

Taith i La Manga

Bydd y garfan yn teithio i La Manga yn Sbaen ym mis Mawrth i wneud paratoadau munud olaf ar gyfer y tymor newydd.

Byddan nhw’n herio Swydd Gaerloyw mewn tair gêm ugain pelawd ac un gêm dros gyfnod o ddeuddydd.

“Bydd ambell sesiwn yn y rhwydi o gwmpas hynny a rhywfaint o weithgareddau adeiladu tîm,” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael mynd i ffwrdd am ychydig, a dychwelyd gyda’n meddyliau’n barod ar gyfer y tymor.”

Mae’n dweud ei fod e’n edrych ymlaen at arwain y sir am yr ail dymor, a’i fod e’n gobeithio adeiladu ar brofiad positif y llynedd.

“Fe wnes i ddysgu lot fawr amdana’ i fy hun a’r chwaraewyr.

“Mae rhai pethau’n dod yn naturiol, ond ddim pethau eraill. Dw i wedi cyffroi o geisio gadael y tîm mewn lle gwell nag yr oedd e pan ddechreuais i.

“Dyna’r cyfan allwch chi ei wneud yw bod yn onest gyda chi eich hun.

“Maen nhw’n fois da i’w harwain, a dw i’n edrych ymlaen at adeiladu ar hynny.”

Marnus Labuschagne yn dychwelyd

Un o’r “bois” hynny yw’r Awstraliad Marnus Labuschagne, sydd newydd lofnodi cytundeb dwy flynedd gyda’r sir.

Fe ddaw ar ôl iddo sgorio mwy o rediadau nag unrhyw fatiwr arall yn y byd yn 2019, gan godi i fod y trydydd batiwr gorau yn y byd yn ôl rhestr y Cyngor Criced Rhyngwladol.

“Mae’n dipyn o hwb i ni ei gael e’n ôl,” meddai Chris Cooke. “Roedd e’n hapus iawn yma ac wedi mwynhau’r clwb a’r ystafell newid.

“Mae e’n amlwg wedi cyffroi o gael dychwelyd i chwarae yma am y ddwy flynedd nesaf.

“Mae’n dangos i ba gyfeiriad rydyn ni wedi mynd, ac mae e am fod yn rhan o hynny.”

Ond o safbwynt Morgannwg, mae ei berfformiadau diweddar wedi ei weld e’n dod yn aelod cyson o dîm Awstralia, sy’n golygu y gallai golli rhywfaint o’r tymor pe bai’n cael ei ddewis eto.

“Gobeithio y gwelwn ni gryn dipyn ohono fe. Mae ei lwyddiant yn amlwg wedi arwain at sawl taith, sy’n wych iddo fe ond yn amlwg, bydd rhaid i ni fod yn ofalus gyda’i eilydd os na fydd e ar gael.

“Dw i’n credu bod Matt [Maynard, y prif hyfforddwr] a Wally [Mark Wallace, y Cyfarwyddwr Criced] yn edrych ar nifer o opsiynau.

“Dydyn ni ddim yn hollol siŵr pryd fydd e yma felly unwaith fyddwn ni’n gwybod hynny, bydd pethau dipyn haws wedyn, ond mae gyda ni gynlluniau wrth gefn, dw i’n meddwl.”