Mae cyfrol am y cyn-gricedwr Bernard Hedges gan ei fab Stephen wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr fawreddog Llyfr y Flwyddyn y Gymdeithas Griced.

Yn ôl Stephen Hedges, mae’r gyfrol Bernard Hedges: The Player From Ponty yn un “sy’n cofio’r gêm fel yr oedd hi” yng nghyfnod ei dad, oedd yn hanu o Bontypridd ac wedi chwarae i Forgannwg rhwng 1950 a 1967 ac a fu farw yn 2014.

Fe luniodd Stephen Hedges y gyfrol fel rhan o’i astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae wedi’i enwebu am wobr a gafodd ei hennill yn y gorffennol gan nifer o awduron criced blaenllaw fel Derek Birley a Scyld Berry.

“Rwy’n falch iawn ac yn ostyngedig,” meddai Stephen Hedges wrth golwg360.

“Ro’n i’n arfer bod yn aelod o’r Gymdeithas Griced ond daeth yr aelodaeth i ben drwy ddamwain!

“Dw i’n gwybod fod y wobr am Lyfr y Flwyddyn yn un boblogaidd ac yn urddasol dros ben, felly dw i mor falch fod y gyfrol wedi cael ei henwebu.

“Mae’n braf gweld fod y gyfrol am Dad wedi cael lle ymhlith y fath gwmni mawreddog.

“Mae’n wobr anhygoel sy’n cynnal safon ysgrifennu am griced a diddordeb yn y gêm o amgylch y byd, felly dw i mor falch.” 

Enwebiad i’r teulu oll

Mae’n dweud bod yr enwebiad yn destun balchder i’r teulu cyfan.

“Y person cyntaf ffoniais i oedd Mam, ac roedd hi’n falch iawn.

“Ac wrth gwrs, fy ngwraig a’r meibion Lewis ac Ellis, sydd wedi bod yn anfon ac ail-drydar negeseuon St. David’s Press yn dweud ein bod ni wedi cael enwebiad.

“A bydd brawd fy nhad yn rhoi gwybod i’r teulu ym Mhontypridd a dw i’n siŵr y byddan nhw’n falch hefyd.”

Cydnabyddiaeth i arwr tawel

Yn ôl Stephen Hedges, mae’r enwebiad yn cydnabod un o arwyr tawel Clwb Criced Morgannwg, a nifer o gricedwyr tebyg na chafodd fawr o sylw yn ystod eu gyrfaoedd.

“Pan dw i’n meddwl am y peth nawr, mae dwy flynedd a hanner neu dair blynedd ers i fi orffen ysgrifennu’r llyfr.

“O edrych ar y byd criced heddiw a’r newidiadau sy’n digwydd, dw i’n credu bod pobol yn ysu am gofio’r gêm fel yr oedd hi’n arfer bod. 

“Roedd Dad yn un o’r cricedwyr sirol digon cyffredin hynny a dreuliodd ei yrfa heb fawr o wobrau a heb gael ei ddathlu tra ei fod e’n chwarae.

“Yr ymadrodd sy’n cael ei ddisgrifio dro ar ôl tro i’w ddisgrifio fe yw ‘un o’r hoelion wyth’ c mewn ffordd, mae’r llyfr yn cydnabod yr holl hoelion wyth sirol a chwaraeodd yng nghyfnod Dad ac ar ôl hynny.

“Mae’n briodol heddiw ein bod ni’n clodfori’r mawrion ar draws y byd ond er mwyn i’r gêm oroesi, mae angen llawer o chwaraewyr nad ydyn nhw’n cael fawr o sylw ond sy’n broffesiynol yn eu ffordd eu hunain.

“Gobeithio fod peth o’r gydnabyddiaeth i’r gyfrol hon hefyd yn cydnabod ymdrechion yr holl gricedwyr llai adnabyddus hefyd.”