Jess Jonassen, prif fowlwraig undydd y byd, yw’r bedwaredd chwaraewraig i gael ei dewis i chwarae i dîm criced Tân Cymreig yn y gystadleuaeth ugain pelawd ddinesig Can Pelen y tymor nesaf.

Bydd y chwaraewraig amryddawn 27 oed yn cael ei hyfforddi gan ei chydwladwr Matthew Mott, cyn-brif hyfforddwr Morgannwg.

Mae hi’n ymuno â charfan sydd eisoes yn cynnwys Meg Lanning, un o brif sêr y byd, ynghyd â Katie George a Bryony Smith.

“Bydd Can Pelen yn gystadleuaeth wych ac yn gyfle cyffrous i gêm y merched yn benodol,” meddai Jess Jonassen.

“Dw i wedi mwynhau bod yn rhan o’r WBBL [Women’s Big Bash League yn Awstralia] ac mae gwylio honno’n tyfu yn dangos bod yna awydd go iawn am griced domestig i ferched, a dw i’n siŵr y bydd hynny’r un fath yn y Deyrnas Unedig.

“Bydd yn dda cael ymuno â Matt Mott a Meg Lanning ac yn amlwg, rydyn ni’n cydweithio ar lefel ryngwladol, ond dw i hefyd wedi cyffroi o gael chwarae ochr yn ochr â Katie George a Bryony Smith a dod i adnabod wynebau newydd.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o’r Tân Cymreig a gobeithio helpu i symud y tîm yn ei flaen.”