Daeth cadarnhad erbyn hyn mai Tân Cymreig / Welsh Fire yw enw tîm criced dinesig newydd y dynion fydd yn cael ei leoli yng Nghaerdydd y tymor nesaf, ac y byddan nhw’n gwisgo cit coch.

Bydd y gystadleuaeth Can Pelen (The Hundred) yn cael ei chynnal bob haf am gyfnod o bum mlynedd.

Ar ôl y cam cyntaf yn y broses o ddewis chwaraewyr prawf Lloegr, daeth cadarnhad hefyd mai Jonny Bairstow (Swydd Efrog) fydd yn chwarae i’r tîm yng Ngerddi Sophia, yn ogystal â Colin Ingram (Morgannwg) a Tom Banton (Gwlad yr Haf) fel dau eicon lleol.

Katie George a Bryony Smith yw’r ddwy gyntaf i gael eu dewis i dîm y merched.

Tra bydd tîm y dynion yn chwarae yng Nghaerdydd, bydd y merched yn chwarae ym Mryste a Taunton, ac mae’r enw newydd eisoes yn corddi’r dyfroedd ymhlith cefnogwyr Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf.

Y broses o ddewis

Cafodd y timau lle mae’r chwaraewyr rhynglwadol wedi’u lleoli y dewis cyntaf i’w cadw nhw yn y ddinas honno, gyda’r timau heb chwaraewr rhyngwladol yn cael y dewis nesaf.

Aeth y chwaraewyr rhyngwladol na chafodd eu dewis yn awtomatig i’w dinas agosaf.

Mae disgwyl i’r chwaraewyr hyn chwarae tair gêm yn unig yn y gystadleuaeth oherwydd ymrwymiadau rhyngwladol, yn ogystal â Diwrnod y Ffeinals pe bai eu tîm yn cymhwyso.

Gary Kirsten, cyn-fatiwr agoriadol De Affrica, fydd yn hyfforddi tîm dynion Caerdydd, tra mai Matthew Mott, cyn-brif hyfforddwr Morgannwg, fydd yn hyfforddi tîm y merched.

Cafodd y manylion eu cadarnhau am 1 o’r gloch heddiw, wrth i bob un o’r wyth tîm dinesig gael y cyfle i ddewis hyd at dri o chwaraewyr Lloegr.

Bydd gweddill y garfan, gan gynnwys sêr fyd-eang o dramor, yn cael ei datgelu yn ystod ail gam y broses ar Hydref 20, lle bydd eu cyflogau, a fydd yn amrywio o £30,000 i £125,000 hefyd yn cael eu datgelu.

Y gystadleuaeth

Bydd y timau eraill yn cael eu lleoli yn Birmingham, Leeds, Manceinion, Nottingham, Southampton a dau yn Llundain.

Bydd y timau’n chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith, gyda gêm ychwanegol rhwng y timau sydd wedi’u paru, sy’n golygu y bydd y tîm yng Nghaerdydd yn chwarae ddwywaith yn erbyn tîm Southampton.

Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o Orffennaf 17 hyd at Awst 16 y flwyddyn nesaf, gyda’r tri thîm ar frig y gynghrair yn cystadlu yn Niwrnod y Ffeinals. Bydd y tîm ar y brig yn mynd yn awtomatig i’r ffeinal, a’r timau yn yr ail a’r trydydd safle yn herio’i gilydd am le yn y ffeinal.

Y chwaraewyr a’r carfanau hyd yn hyn

Tân Cymreig / Welsh Fire (Caerdydd): Jonny Bairstow, Colin Ingram, Tom Banton; Katie George, Bryony Smith

Trent Rockets (Nottingham): Joe Root, Harry Gurney, Alex Hales; Nat Sciver, Katherine Brunt

Birmingham Phoenix (Birmingham): Chris Woakes, Moeen Ali, Pat Brown; Amy Jones, Kirstie Gordon

London Spirit (Llundain 1): Rory Burns, Dan Lawrence, Eoin Morgan; Heather Knight, Freya Davies

Manchester Originals (Manceinion): Jos Buttler, Saqid Mahmood, Matt Parkinson; Kate Cross, Sophie Ecclestone

Northern Superchargers (Leeds): Ben Stokes, Adil Rashid, David Willey; Lauren Winfield, Linsey Smith

Oval Invincibles (Llundain 2): Sam Curran, Tom Curran, Jason Roy; Laura Marsh, Fran Wilson

Southern Brave (Southampton): Jofra Archer, Chris Jordan, James Vince; Anya Shrubsole, Danni Wyatt