Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai Gary Kirsten, prif hyfforddwr tîm criced dinesig newydd Caerdydd, gael ei benodi i brif swydd Lloegr.

Mae’r tîm criced cenedlaethol yn chwilio am brif hyfforddwr newydd yn dilyn ymadawiad Trevor Bayliss.

Ond mae’r ceffyl blaen ar gyfer y swydd wedi cytuno’n ddiweddar i fod yn gyfrifol am y tîm dinesig fydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ac yn cwmpasu timau Morgannwg, Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw.

Daw’r adroddiadau am Gary Kirsten, cyn-fatiwr agoriadol De Affrica, wrth i’r wyth tîm sy’n paratoi i gystadlu yng nghystadleuaeth can pelen The Hundred aros i ddechrau adeiladau eu timau.

Bydd y chwaraewyr cyntaf yn cael eu dewis gan yr wyth tîm dinesig fel rhan o broses ddethol yfory (dydd Iau, Hydref 3), a’r rheiny i gyd yn cynrychioli Lloegr.

Yr enwau eraill sy’n cael eu cysylltu â phrif swydd Lloegr yw Graham Ford, Chris Silverwood, Alec Stewart a Graham Thorpe.

Gyrfa Gary Kirsten

Gary Kirsten oedd prif hyfforddwr tîm India pan enillon nhw Gwpan y Byd yn 2011.

O’r fan honno, fe ddychwelodd i’w famwlad lle cododd e dîm De Affrica i frig rhestr timau gorau gemau prawf y byd.

Dydy e ddim wedi hyfforddi ar y lefel ryngwladol ers 2013.

Pe bai’n cael ei benodi i brif swydd Lloegr, mae’n bosib y gallai Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ddod i gytundeb â’r tîm dinesig fel y gallai rannu ei amser rhwng y ddwy swydd.