Fydd tîm criced Morgannwg ddim yn ennill dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Roedd angen iddyn nhw ennill y gêm yn Durham gyda chynifer o bwyntiau â phosib, a gobeithio am y gorau yn y gêm rhwng Swydd Gaerloyw a Swydd Northampton.

Ond doedd dim modd bowlio’r un belen ar y trydydd diwrnod ddoe (dydd Mercher), a chafodd y diwrnod olaf ei chanslo am 9 o’r gloch fore heddiw.

Manylion y trydydd diwrnod

Gyda’r glaw yn drwm dros nos, roedd y cae yn wlyb ar ddechrau’r trydydd bore ac fe benderfynodd y dyfarnwyr na fyddai’n bosib dechrau chwarae cyn cinio.

Er iddyn nhw geisio archwilio’r cae am 1.30yp, fe ddaeth y glaw eto ac fe gafodd yr archwiliad ei ohirio tan 2.45yp pan benderfynodd y dyfarnwyr na fyddai’n bosib chwarae am weddill y dydd.