Mae gobeithion tîm criced Morgannwg o ennill dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth yn pylu yn sgil y tywydd yn Durham, wrth i’r tîm cartref ddechrau’r trydydd diwrnod ar 262 am wyth yn Chester-le-Street.

Mae angen i Forgannwg ennill y gêm hon gyda chynifer o bwyntiau bonws â phosib, a gobeithio na fydd y gêm rhwng Swydd Gaerloyw a Swydd Northampton ym Mryste yn gorffen yn gyfartal, er mwyn bod â llygedyn o obaith o ennill dyrchafiad.

Dim ond pymtheg o belawdau gafodd eu bowlio ar yr ail ddiwrnod ddoe (dydd Mawrth, Medi 24), ond roedd yn ddigon i BJ Watling daro’i ail ganred ar bymtheg mewn gemau dosbarth cyntaf, wrth i Durham achosi rhwystredigaeth i Forgannwg.

Manylion

Marchant de Lange gipiodd y ddwy wiced gwympodd yn ystod y dydd.

Roedd Durham yn 197 am chwech yn dechrau’r ail ddiwrnod, ond cipiodd Morgannwg wiced Ben Raine gyda thrydedd pelen y dydd wrth iddo gael ei fowlio am 26.

Cwympodd yr ail wiced yn fuan ar ôl i Durham gyrraedd 200 am bwynt batio, pan gafod Brydon Carse ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am 27. Cyrhaeddodd BJ Watling ei ganred oddi ar 201 o belenni, ac fe gipiodd Durham ail bwynt batio cyn i’r glaw ddod i roi terfyn ar y chwarae am y dydd.

Sgorfwrdd