Er bod gobeithion Morgannwg o ennill dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth ar ben, i bob pwrpas, yn sgil canlyniadau gemau eraill, maen nhw mewn sefyllfa gref i ennill eu gêm olaf yng Nghaerdydd.

Ar ôl sgorio 251 am bump wrth gau eu hail fatiad, a Kraigg Brathwaite yn taro’i ganred cyntaf i’r sir (103 heb fod allan), roedden nhw wedi gosod nod o 424 i Swydd Gaerlŷr mewn o leiaf 113 o belawdau.

Erbyn diwedd y dydd, roedd yr ymwelwyr mewn rhywfaint o drafferth ar 32 am ddwy.

Diwedd batiad cynta’r ymwelwyr

Ar ôl dechrau’r trydydd diwrnod ar 191 am naw, aeth partneriaeth Chris Wright a Will Davis y tu hwnt i’r hanner cant, wrth i’r batwyr ddechrau’n ymosodol yn erbyn Ruaidhri Smith.

Sgorion nhw 72 o fewn tri chwarter awr ar ddechrau’r dydd.

Cyrhaeddodd Chris Wright ei hanner canred oddi ar 75 o belenni, ar ôl taro wyth pedwar ac un chwech i symud ei dîm gam yn nes at osgoi canlyn ymlaen.

Ond fe gafodd ei stympio gan Chris Cooke oddi ar fowlio Samit Patel am 60, gan ddod â phartneriaeth o 92 gyda Will Davis i ben, a’r ymwelwyr i gyd allan am 263.

Gorffennodd y troellwr llaw chwith gyda phedair wiced am 58.

Ail fatiad Morgannwg

Er gwaetha’r flaenoriaeth swmpus o 172 ar ddiwedd y batiad cyntaf, fe wnaeth Morgannwg y penderfyniad syfrdanol i beidio â gorfodi’r ymwelwyr i ganlyn ymlaen.

A buan y collodd y sir Gymreig eu wiced gyntaf, pan darodd Gavin Griffiths goes Nick Selman o flaen y wiced am wyth, a’r sgôr yn 24 am un.

Wrth i David Lloyd ymuno â Kraigg Brathwaite, cyflymodd y gyfradd sgorio rywfaint ond cafodd ei ddal gan y wicedwr Harry Swindells oddi ar fowlio Will Davis am 25, a’r sgôr yn 60 am ddwy.

Ychwanegodd Samit Patel 65 gyda Kraigg Brathwaite cyn i’r troellwr Colin Ackermann daro’i goes o flaen y wiced am 33, a’r sgôr yn 125 am dair.

Cyrhaeddodd Kraigg Brathwaite ei hanner canred oddi ar 119 o belenni ar ôl taro chwe phedwar ond ychydig belawdau cyn te, tarodd Chris Wright goes Billy Root o flaen y wiced am 19, a Morgannwg yn 164 am bedair.

Roedden nhw’n 244 am bump pan gafodd Chris Cooke ei fowlio gan Chris Wright am 43, gan ddod â phartneriaeth o 80 i ben gyda Kraigg Brathwaite, a gyrhaeddodd ei ganred oddi ar 189 o belenni, a gorffen heb fod allan ar 103, ar ôl taro 12 pedwar ac un chwech.

Wrth iddo gyrraedd ei ganred, fe wnaeth Morgannwg gau’r batiad, gan adael nod o 424 i’r Saeson.

Yr ymwelwyr yn cwrso

Roedd 17 pelawd yn weddill o’r trydydd diwrnod pan ddechreuodd yr ymwelwyr fatio ac ar ôl adeiladu partneriaeth o 85 yn y batiad cyntaf, byddai angen rhywbeth tebyg yn yr ail os oedden nhw am gyrraedd y nod swmpus.

Doedd hynny ddim am ddigwydd, fodd bynnag, wrth i’r capten Paul Horton gael ei ddal yn gampus gan Chris Cooke oddi ar fowlio Lukas Carey am saith, a’r sgôr yn 14 am un.

Ac fe ddilynodd Colin Ackermann yn dynn ar ei sodlau wrth gael ei ddal yn y slip gan David Lloyd am un, a’r bowliwr yn cipio’i ail wiced yn y batiad.