Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth olaf yng Nghaerdydd, wrth iddyn nhw ddechrau ar 300 am bedair yn erbyn Swydd Gaerlŷr.

Fe fydd rhaid iddyn nhw ennill y gêm hon, a fwy na thebyg y gêm olaf yn Durham, gyda phwyntiau bonws llawn er mwyn bod â gwir obaith o ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf y tymor nesaf.

Fe fydd y batiad cyntaf yn galonogol i Forgannwg, wrth iddyn nhw adeiladu pedair partneriaeth o fwy na 50, ac mae ganddyn nhw 19.4 o belawdau’n weddill i ennill y pwyntiau batio olaf.

Daeth y diwrnod cyntaf i ben ar ôl cyfnod o law a golau gwael.

Manylion

Ar ôl i’r ymwelwyr benderfynu bowlio, dechreuodd Morgannwg yn gadarn gyda phartneriaeth o 62 rhwng Nick Selman a Kraigg Brathwaite ar frig y batiad.

Ond cafodd Nick Selman ei ddal yn gampus o isel yn y cyfar gan Will Davis oddi ar fowlio Ben Mike am 36.

Batiodd Kraigg Brathwaite am dair awr 40 munud wrth sgorio 44, gan ychwanegu 81 am yr ail wiced gyda David Lloyd, cyn i Gavin Griffiths daro’i goes o flaen y wiced.

Ychwanegodd David Lloyd a Samit Patel 53 am y drydedd wiced, ac roedd David Lloyd wedi sgorio 66 oddi ar 148 o belenni, gan gynnwys un chwech ac wyth pedwar, cyn cael ei fowlio gan Chris Wright.

Ychwanegodd Samit Patel a Billy Root 59 am y bedwaredd wiced cyn i Samit Patel gael ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Colin Ackermann oddi ar fowlio Ben Mike am 66.

Billy Root a Chris Cooke sydd wrth y llain, ac maen nhw wedi ychwanegu 45 am y bumed wiced hyd yn hyn.

Sgorfwrdd