Mae’n bosib y gallai’r gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Gaerwrangon yng Nghaerwrangon (Worcester) orffen mewn modd cyffrous, gyda’r tîm cartref ar y blaen o 165 o rediadau yn eu hail fatiad gydag wyth wiced yn weddill ar ddechrau’r trydydd diwrnod.

Tarodd Daryl Mitchell ei hanner canred cyntaf ers y gêm gyfatebol yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd ar ddechrau mis Gorffennaf, wrth i’w dîm gyrraedd 153 am ddwy.

Mae Morgannwg yn mynd am fuddugoliaeth gyda dwy gêm yn weddill ar ôl hon er mwyn ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf.

Manylion

Ar ôl bowlio’r tîm cartref allan am 205, dechreuodd Morgannwg yr ail ddiwrnod ar 44 am ddwy yn eu batiad cyntaf, gan obeithio manteisio ar lain oedd wedi rhoi cryn fantais i’r bowlwyr yn gynnar yn y gêm.

Ond buan y collon nhw Kraigg Brathwaite am 19 – oddi ar 97 o belenni – wrth iddo fe ddarganfod dwylo diogel y wicedwr Ben Cox oddi ar fowlio Charlie Morris, a’r sgôr yn 56 am dair.

Cipiodd y bowliwr wiced yn ei belawd ganlynol, wrth i Billy Root yrru’n wyllt a chael ei ddal gan Ed Barnard yn y cyfar, a’r sgôr yn 64 am bedair.

Roedden nhw’n 75 am bump pan dynnodd Samit Patel at Alex Milton yn sgwâr oddi ar fowlio Adam Finch, a’r batiwr allan am bump.

Aeth 75 am bump yn 98 am chwech pan gipiodd Moeen Ali chwip o ddaliad oddi ar ei fowlio’i hun i waredu David Lloyd am 35.

Roedden nhw’n 120 am saith pan gafodd y capten Chris Cooke ei ddal yn isel yn y slip gan Rikki Wessels oddi ar fowlio Joe Leach.

Cwympodd yr wythfed wiced ar 137 pan gafodd Ruaidhri Smith ei fowlio gan Charlie Morris.

Collodd Morgannwg eu nawfed wiced ar ôl partneriaeth o 39 rhwng Lukas Carey a Timm van der Gugten, pan yrrodd Lukas Carey at Alex Milton yn y cyfar oddi ar fowlio Moeen Ali am 16.

Roedden nhw i gyd allan am 193 pan gafodd Michael Hogan ei ddal gan Alex Milton wrth fachu pelen gan Charlie Morris, oedd wedi gorffen gyda phum wiced am 73, wrth i’w dîm ddechrau’r ail fatiad gyda blaenoriaeth o 12.

Ail fatiad Swydd Gaerwrangon

 Wrth ddechrau’r ail fatiad gyda blaenoriaeth o 12, roedd batio’n edrych yn hawdd i fatwyr agoriadol Swydd Gaerwrangon, Daryl Mitchell a Hamish Rutherford.

Fe wnaethon nhw fanteisio ar y llain yn sychu allan, wrth i Hamish Rutherford daro hanner canred cynta’r gêm mewn partneriaeth allweddol ar frig y rhestr, cyn cael ei ddal gan Kraigg Brathwaite yn y slip oddi ar fowlio Ruaidhri Smith am 52, a’r sgôr yn 70 am un.

Ond roedd y momentwm yn dal gyda’r tîm cartref wrth i Moeen Ali ymuno â Daryl Mitchell, ond fe gafodd batiwr Lloegr ei ddal yn yr ochr agored gan Michael Hogan wrth gam-ergydio oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Samit Patel, a’r sgôr yn 107 am ddwy.

Ychwanegodd Daryl Mitchell a Jack Haynes 46 am y drydedd wiced cyn diwedd y dydd, a’r ddau yn dal wrth y llain.

Sgorfwrdd