Roedd sawl Cymraes, ac un Cymro, yn allweddol i lwyddiant tîm criced merched Western Storm eleni, wrth iddyn nhw ennill cystadleuaeth y Kia Super League.

Wrth guro’r Southern Vipers o chwe wiced yn Hove brynhawn ddoe (dydd Sul, Medi 1), y Western Storm yw’r tîm cyntaf erioed i ennill y gystadleuaeth ddwywaith.

Ymhlith y garfan mae Claire Nicholas, Danielle Gibson, Rachel Priest ac Alex Griffiths, ac mae Mark O’Leary, prif hyfforddwr tîm dynion Prifysgolion Caerdydd yr MCC, wedi bod yn hyfforddi’r bowlwyr ar ôl cael ei ryddhau o’i waith am gyfnod.

O blith y pedair, dim ond Claire Nicholas a Rachel Priest oedd wedi chwarae yn y gêm derfynol.

Ond fyddan nhw ddim yn cael cyfle i amddiffyn eu teitl y tymor nesaf, gan fod y gystadleuaeth yn cael ei dileu i wneud lle ar gyfer cystadleuaeth can pelen The Hundred, a fydd yn cael ei chynnal ochr yn ochr â chystadleuaeth y dynion.

Y gêm derfynol

Tarodd Heather Knight 78 heb fod allan i helpu ei thîm i ennill y gynghrair, wrth iddyn nhw gwrso 173 gyda phelawd yn weddill o’r ugain.

Sgoriodd Danni Wyatt 73 i’r Southern Vipers wrth iddyn nhw gyrraedd 172 am saith yn eu batiad, a hi bellach yw’r gyntaf i gyrraedd 1,000 o rediadau yn hanes y gystadleuaeth.

Cafodd Heather Knight ei chefnogi gan Rachel Priest (27) ar ôl i’r Western Storm golli wicedi cynnar, ac yna gan Deepti Sharma, oedd wedi sgorio 39 oddi ar 22 o belenni, wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o 71 oddi ar 33 o belenni i gyrraedd y nod.