Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, yn dweud nad oedd y tîm wedi manteisio’n llawn ar eu sgiliau wrth golli o fatiad a 150 o rediadau o fewn tridiau yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Llandrillo-yn-Rhos yr wythnos hon.

Ac mae’n dweud mai batiad Dane Vilas, capten Swydd Gaerhirfryn, yw’r gorau iddo ei weld erioed, ar ôl i’r batiwr o Dde Affrica sgorio 266 – mwy na chyfanswm batiad cyntaf Morgannwg.

Mae’r golled yn golygu bod Morgannwg wedi colli eu dwy gêm Bencampwriaeth ddiwethaf, wedi llithro i’r trydydd safle yn y tabl ac yn debygol o lithro ymhellach ar ôl i’r rownd hon o gemau gael ei chwblhau.

Dyma’r ail dymor yn olynol i un batiwr sgorio mwy na chyfanswm batiad Morgannwg yn y gogledd, ar ôl i Ian Bell daro 204 i Swydd Warwick y tymor diwethaf, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 203.

Canmol Dane Vilas

Yn ôl Matthew Maynard, batiodd Dane Vilas mewn modd nad oedd neb arall wedi gallu gwneud yn ystod y gêm a oedd yn ei atgoffa, meddai o Steve Smith yn batio i Awstralia yng Nghyfres y Lludw.

“Pan ddowch chi ar draws chwaraewyr o’r fath, rhaid i chi eu hedmygu nhw,” meddai wrth golwg360.

“Mi welson ni yn y prawf cyntaf fod Steve Smith wedi chwarae fel neb arall ar y llain, a dyna wnaeth Dane Vilas yma. Mi oedd o jest yn edrych yn wych. Roedd pawb a fatiodd cyn fo yn edrych yn nerfus o amgylch y ‘bedwaredd ffon’ ar y llain hon.

“Ro’n i’n meddwl bod ei 26 rhediad olaf yn ddigon cyffredin, ond y 240 cyntaf oedd y batiad gorau dw i erioed wedi’i weld.

“Yn ystod y 26 olaf, tarodd o’r bêl efo ymyl y bat sawl gwaith ac mi fethodd o sawl gwaith hefyd.

“Mi gyrhaeddodd o 240 a dw i’m yn ei gofio fo’n methu. Roedd o’n fatiad o’r radd flaenaf gan rywun sy’n amlwg yn chwarae’n arbennig o dda ar hyn o bryd.”

Gwendidau – a chryfderau prin – Morgannwg

Wrth siarad â golwg360 cyn y trydydd diwrnod, roedd Matthew Maynard yn awyddus i ganmol bowlwyr cyflym Morgannwg, yn enwedig Michael Hogan.

“Rhaid i chi ganmol y ffordd wnaeth batwyr Swydd Gaerhirfryn fatio, ond ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi bowlio’n arbennig o dda yn ystod y sesiwn gyntaf [ar yr ail ddiwrnod].

“Mi wnaethon ni eu rhoi nhw o dan gryn bwysau, gyda Michael Hogan yn arwain y ffordd efo’r bêl fel y mae o wedi’i wneud ers blynyddoedd, ac mi gafodd o’r wicedi roedden ni am iddo fo eu cael.

“Mi lusgodd o ni nôl efo cyfradd economi’n llai na thri, felly wnaeth o bopeth roedd pawb yn ceisio’i wneud.”

Yn ôl Matthew Maynard, methodd batwyr Morgannwg ag efelychu batwyr y gwrthwynebwyr a dyna, meddai, oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn y pen draw.

“Mi wnaeth y bartneriaeth rhwng Keaton Jennings a Dane Vilas roi persbectif newydd ar y cyfan wedyn.

“Roedd o’n fatiad positif a hollol ryfeddol gan eu capten nhw.”

Yn draddodiadol, mae batwyr wedi llwyddo i sgorio’n hawdd yn y gogledd, gyda record Morgannwg yn dod ar y cae hwn pan darodd Steve James 309 heb fod allan yn erbyn Sussex yn 2000.

Ac mae Matthew Maynard yn teimlo’n rhwystredig nad oedd batwyr Morgannwg wedi gallu manteisio ar hynny y tro hwn, nac wedi gallu dangos amynedd wrth adeiladu partneriaethau.

“Mi welson ni Steve James yn sgorio 309 yn erbyn Sussex, flwyddyn ar ôl iddo fo sgorio 259 heb fod allan yn erbyn Swydd Nottingham. Roedd Dane Vilas yn amyneddgar iawn ar ddechrau ei fatiad, a wnaethon ni ddim rhoi gormod o gyfleoedd iddo fo sgorio bryd hynny.

“Mi gymerodd o ei amser i ddechrau adeiladu batiad ond pan lwyddodd o, mi wnaeth o ein tynnu ni i lawr. A bod yn deg, mi driodd y bowlwyr amryw o bethau ond mae’n siŵr nad oeddan ni wedi defnyddio ein sgiliau cystal ag y dylen ni fod wedi’i wneud.”

Canmol cae Llandrillo-yn-Rhos

Er ei siom yn sgil y canlyniad, mae Matthew Maynard, a gafodd ei fagu ym Mhorthaethwy, yn dweud bod y profiad o chwarae yn y gogledd bob amser yn un pleserus i Forgannwg.

“Dw i’n meddwl mai’r ail ddiwrnod ydi’r dorf fwyaf yno yn y Bencampwriaeth ers 30 o flynyddoedd, felly mae’n dangos bod chwarae yno yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn beth da iawn.

“Roedd y rhan fwyaf o’r dorf yn amlwg yn bobol o Swydd Gaerhirfryn, ond mi welson ni lawer o gefnogwyr Morgannwg yma hefyd.

“Dw i’n meddwl bod yr ŵyl hon yn wych, ond yr unig dristwch ydi bod y cystadlaethau wedi’u rhannu fel na allwch chi chwarae gêm Bencampwriaeth a gêm undydd ar yr un adeg, oherwydd roeddan nhw’n wych yma.

“Mae’r llain yn dda yma, ac mae’n rhaid i chi weithio’n galed.

“Mi gewch chi eich gwobrwyo os ydach chi’n bowlio’n dda arni ond os nad ydach chi, mi ellir sgorio rhediadau mawr fel y gwelson ni.

“Ond mi oedd hi’n braf cael bod yn ôl yn y gogledd mewn awyrgylch sy’n gyfeillgar a hamddenol.”