Mae Morgannwg wedi cael crasfa yn Llandrillo-yn-Rhos, wrth i Swydd Gaerhirfryn ymestyn eu mantais ar frig ail adran y Bencampwriaeth, wrth ennill o fatiad a 150 o rediadau.

Mae’n golygu bod Morgannwg wedi cael ergyd arall wrth fynd am ddyrchafiad, ar ôl colli eu hail gêm Bencampwriaeth yn olynol.

Fe ddechreuodd yr ymwelwyr ar 544 am naw ar y trydydd diwrnod ac er iddyn nhw gipio’r wiced olaf yn gyflym, fe gwympodd Morgannwg yn brin o’r nod o orfodi’r ymwelwyr i fatio eto wrth gael eu bowlio allan am 138.

Dechrau’r diwedd

Bedair pelen yn unig gymerodd hi i Forgannwg gipio wiced olaf batiad cyntaf Swydd Gaerhirfryn.

Cafodd Saqib Mahmood ei ddal yn y slip gan David Lloyd oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Samit Patel am wyth, a’r ymwelwyr i gyd allan am 545 – mantais batiad cyntaf o 288.

Os oedd Morgannwg dan bwysau cyn eu hail fatiad, roedden nhw’n sicr dan gryn bwysau yn gynnar iawn yn y batiad hwnnw.

Bu bron i Nick Selman gael ei ddal gan Tom Bailey, y bowliwr, oddi ar belen gynta’r batiad ond fe gafodd ei daro ar ei goes yn y bymthegfed belawd, wedyn, a hynny gan Danny Lamb am 18.

Dair pelawd yn ddiweddarach, cipiodd y bowliwr ei ail wiced pan darodd e goes Charlie Hemphrey o flaen y wiced am 14, a’r sgôr erbyn hynny’n 33 am ddwy.

Collodd Morgannwg drydedd a phedwaredd wicedi’r batiad mewn pelawdau olynol gan Richard Gleeson, wrth i David Lloyd a Billy Root ill dau gael eu dal gan y wicedwr Dane Vilas, a’r sgôr yn 46 am bedair erbyn amser cinio.

Llithro yn y prynhawn

Parhau i chwalu Morgannwg wnaeth y Saeson yn ystod y prynhawn, wrth i Shaun Marsh gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Tom Bailey am naw, a’r sgôr yn 54 am bump yn gynnar yn y sesiwn.

Ychwanegodd y capten Chris Cooke a Samit Patel 42 am y chweched wiced cyn i Saqib Mahmood daro coes Samit Patel o flaen y wiced am 22, a’r sgôr yn 96 am chwech.

Ac fe arhosodd y capten yn gadarn mewn partneriaeth o 27 gyda Graham Wagg, cyn i hwnnw gael ei ddal gan Rob Jones oddi ar fowlio Tom Bailey am naw, a’r sgôr yn 123 am saith.

Y capten oedd y batiwr nesaf allan, pan gafodd ei daro ar ei goes gan Saqib Mahmood am 41, a chafodd Lukas Carey ei fowlio gan Tom Bailey ar ddiwedd y belawd ganlynol i adael Morgannwg yn 138 am naw.

Daeth y gêm i ben pan gafodd Ruaidhri Smith ei fowlio gan Saqib Mahmood am un, a Morgannwg i gyd allan am 138.

Gweddill y gêm

Sgoriodd Morgannwg 257 yn eu batiad cyntaf, gyda dim ond Charlie Hemphrey (56), Samit Patel (54) a Lukas Carey (51 heb fod allan) yn llwyddo i sgorio hanner canred.

Cipiodd Tom Bailey a Danny Lamb bedair wiced yr un, y naill yn ildio 50 rhediad a’r llall yn ildio 70.

Dim ond un batiad gafodd Swydd Gaerhirfryn, wrth iddyn nhw sgorio 545, diolch i 266 gan y capten Dane Vilas, a ddaeth oddi ar 240 o belenni, gan gynnwys 35 pedwar a chwech chwech.

Sgoriodd Keaton Jennings 86 ar frig y batiad, wrth i fowlwyr Morgannwg ddioddef er iddyn nhw fowlio’n eithaf cyson ar y cyfan.

Roedd yn golygu bod Morgannwg 287 o rediadau ar eu hôl hi ar ddechrau eu hail fatiad, ac roedd hi’n gryn frwydr iddyn nhw wrth geisio sicrhau y byddai’n rhaid i’r ymwelwyr fatio eto.

Mae Morgannwg bellach yn drydydd, wrth i Swydd Northampton godi uwch eu pennau o bum pwynt gyda buddugoliaeth dros Swydd Gaerwrangon.

Mae Swydd Gaerloyw’n dynn ar eu sodlau, bedwar pwynt y tu ôl i Forgannwg yn y pedwerydd safle, a bydden nhw hefyd yn codi uwchlaw’r sir Gymreig pe baen nhw’n curo Swydd Derby.