Chafodd yr un belen ei bowlio yn y gêm ugain pelawd rhwng Essex a Morgannwg yn y Vitality Blast yn Chelmsford neithiwr (nos Wener, Awst 16) o ganlyniad i’r glaw.

Fe fu’n bwrw’n drwm drwy gydol y dydd, a doedd fawr o obaith o weld gwelliant yn y tywydd erbyn amser dechrau’r gêm am 7 o’r gloch, a chafodd yr ornest ei chanslo bum munud yn ddiweddarach.

Mae’r ddau dîm yn ennill pwynt yr un.

Dyma’r drydedd gêm yn olynol i drechu Essex, ac mae Morgannwg wedi dioddef bedair gwaith yn ystod y gystadleuaeth.

Daeth yr ornest rhwng y ddwy sir yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf i ben ar ôl pedair pelawd yn unig.